Trydydd parti

Cwmni technoleg gofal iechyd Cegedim yw’r cyflenwr systemau fferyllol diweddaraf i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru.

A pharmacist looking at an iPad

Mae Cegedim yn un o wyth cyflenwr sy’n gweithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) i ddarparu EPS, y newid mwyaf i’r broses ragnodi yng Nghymru ers degawdau.

Mae EPS yn gwneud pethau’n haws ac yn fwy diogel i gleifion a staff gofal iechyd trwy ganiatáu i feddygon teulu a rhagnodwyr eraill anfon presgripsiynau’n electronig i fferyllfa neu ddosbarthwr o ddewis y claf.

Mae hyn yn arwain at wasanaeth mwy cyfleus i gleifion, mwy o effeithlonrwydd i staff practisiau a fferyllwyr, a manteision posibl i’r amgylchedd, gan ei fod yn lleihau nifer y ffurflenni presgripsiwn papur sy’n cael eu hargraffu.

Mae Cegedim wedi datblygu a phrofi ei feddalwedd i allu derbyn presgripsiynau electronig yng Nghymru, ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio mewn dwy gangen o Fferyllfa Nelson yn Nhredegar, Blaenau Gwent, fel rhan o’r broses hon.

Dywedodd Jenny Pugh-Jones, Cadeirydd Goruchwylio’r Rhaglen Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig Gofal Sylfaenol: 

“Rydym wrth ein bodd bod Cegedim yn cefnogi’r gwaith o ddarparu’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yng Nghymru. Mae EPS eisoes yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gleifion ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen at weld Cegedim yn ein helpu i gyflwyno’r gwasanaeth i fwy o gymunedau mor gyflym a diogel â phosibl.”

Dywedodd Tracey Robertson, Cyfarwyddwr Cynnyrch a Thechnoleg Cegedim Rx: 

“Rydym yn falch iawn o gefnogi Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’u helpu i ddarparu’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig i fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru trwy ein platfform Rheolwr Fferyllfa.  

“Gyda fferyllfeydd yn wynebu pwysau cynyddol i ddosbarthu mwy a mwy o eitemau presgripsiwn a’r galw gan gleifion yn cynyddu, mae digideiddio mwy o’r daith bresgripsiwn yn hanfodol. Mae manteision y rhaglen hon yn fwy na dim ond cefnogi timau fferylliaeth a phractisiau meddygon teulu a’u galluogi i wella effeithlonrwydd; mae hefyd yn sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar y gofal sydd ei angen arnynt yn haws ac yn fwy cyfleus.”

Mae EPS yn rhan o’r fenter Moddion Digidol ehangach a reolir gan IGDC. Cefnogwyd cyflenwyr meddalwedd yng Nghymru gan Gronfa Arloesi System Fferylliaeth yn y Gymuned, a sefydlwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac IGDC ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Rwy’n falch iawn o weld Cegedim yn ymuno fel y cyflenwr system fferyllol diweddaraf i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yng Nghymru. Mae EPS eisoes yn cael effaith sylweddol ar gyfleustra i gleifion ac effeithlonrwydd gweithredol, ac rydym yn falch o weld y gwasanaeth trawsnewidiol hwn yn cyrraedd mwy o gymunedau ledled Cymru.” 

Er mwyn symud oddi wrth broses presgripsiynau papur i wasanaeth digidol, mae’n rhaid i systemau TG meddygon teulu a fferyllwyr fedru anfon a derbyn presgripsiynau electronig yn ddiogel.  

Eleni, mae Invatech, Boots, Positive Solutions a Clanwilliam wedi cael cymeradwyaeth i gyflwyno eu meddalwedd i’w fferyllfeydd cymunedol partner yng Nghymru. Bu meddalwedd Clanwilliam, RxWeb, hefyd yn destun profion ychwanegol i gefnogi contractwyr presgripsiynau dyfeisiau.

Mae Cegedim yn dilyn EMIS a PharmacyX wrth brofi ei feddalwedd, tra bod Apotec hefyd wedi dechrau’r broses sicrwydd.

Cegedim follows EMIS and PharmacyX in testing its software, while Apotec has also entered the assurance process. 

Darganfyddwch mwy am EPS.