Trydydd parti

Yn gynharach eleni, cafodd EMIS ei ddewis fel partner technoleg i gefnogi Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gyflwyno’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yng Nghymru.

A pharmacist holding an iPad

Mae’n bleser gennym gadarnhau bod y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig wedi’i brofi’n llwyddiannus mewn dau safle ProScript Connect yn Ne Cymru — fferyllfeydd Nant-y-moel a
Bro Ogwr. Dywedodd Gareth Rowe, Rheolwr Gyfarwyddwr y ddwy fferyllfa:

"Rwy’n rheoli dwy fferyllfa tua milltir ar wahân ym Mro Ogwr yn Ne Cymru, ac mae’r ddwy yn defnyddio ProScript Connect i gefnogi’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig. Bydd y cyfnod pontio yn brofiad dysgu i bob un ohonom ni, ond rwy’n falch o fod yn cymryd rhan yn gynnar yn y broses. Fy nod yw bod yn barod erbyn i ni fynd yn fyw yn swyddogol."

Bydd yr oes newydd hon o ragnodi yn caniatáu i bresgripsiynau ar draws Cymru gael eu prosesu heb orfod cael ffurflen bresgripsiwn ar bapur gwyrdd, sy’n arbed amser clinigol gwerthfawr i lawer o fferyllwyr. 


Ychwanegodd Rowe:  

"Ar hyn o bryd, mae angen mynd â phresgripsiynau papur o’r feddygfa i’r fferyllydd, sy'n gallu cymryd llawer o amser. Rwy'n obeithiol y bydd cyflwyno’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig ledled Cymru yn lleihau’r amser aros am sgriptiau wedi’u llofnodi, gan  roi mwy o amser i gyflenwi gwasanaethau.” 

Ar ddechrau’r broses o brofi’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig, dywedodd Jenny Pugh-Jones, Cadeirydd Goruchwylio'r Rhaglen Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yng Nghymru: 

"Mae cydweithredu yn allweddol i gyflawni llwyddiannus, felly rydyn ni’n hynod o falch o weithio mewn partneriaeth ag EMIS i alluogi rhagnodi electronig yng Nghymru, ac rydyn ni’n eu croesawu fel cyflenwr diweddaraf y system fferyllol i gyrraedd y cam hwn."

Mae tîm y we EMIS yn cefnogi’r broses o gyflwyno’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig ar draws meddygfeydd meddygon teulu yng Nghymru. Gan ddechrau ym mis Ionawr 2025, bydd defnyddwyr ProScript Connect yn gallu dechrau gweithgareddau parodrwydd ar gyfer y gwasanaeth, os ydyn nhw’n dymuno. 

Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi ein cwsmeriaid drwy gydol y daith hon, ac rydyn ni’n gyffrous i helpu i gyflwyno proses ragnodi sy’n llyfnach ac yn fwy effeithlon i glinigwyr, fferyllfeydd a chleifion ledled Cymru.