Wrth i fferyllfeydd baratoi ar gyfer gwasanaeth digidol newydd a fydd yn newid yn llwyr y ffordd y caiff presgripsiynau eu rheoli, cyhoeddwyd mai EMIS yw’r pumed cyflenwr systemau TG i brofi ei dechnoleg i gefnogi presgripsiynau electronig yng Nghymru.
Bydd EMIS yn datblygu ei system fferylliaeth ProScript Connect i gefnogi’r defnydd o e-bresgripsiynau, gyda phrofion byw ar y safle i’w cynnal yn ystod yr haf.
Os bydd y profion yn llwyddiannus, bydd meddalwedd EMIS yn cael ei gyflwyno mewn fferyllfeydd eraill ledled Cymru.
Mae’r gwaith yn cefnogi darpariaeth gwasanaeth presgripsiynau electronig (EPS) sy’n cael ei arwain gan y rhaglen Moddion Digidol yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC).
Dywedodd Jenny Pugh-Jones, arweinydd IGDC ar y gwasanaeth e-bresgripsiynau:
“Mae cydweithredu yn allweddol i gyflawni’r prosiect yn llwyddiannus, felly rydym yn hynod falch o weithio mewn partneriaeth ag EMIS i alluogi rhagnodi electronig yng Nghymru ac rydym yn eu croesawu fel y cyflenwr system fferylliaeth diweddaraf i gyrraedd y cam hwn.”
Dywedodd Suzy Foster, Prif Swyddog Gweithredol EMIS:
“Rydym yn falch iawn i ddarparu’r genhedlaeth nesaf o systemau ar gyfer ein fferyllfeydd yng Nghymru. Rydym yn gweithio’n agos gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gan ddatblygu ein datrysiad ProScript Connect arloesol i gefnogi’r gwaith o ddarparu EPS ledled Cymru.”
Mae cyflwyno rhagnodi electronig yng Nghymru yn symleiddio proses nad yw wedi newid ers degawdau ac yn cynnig llawer o fanteision i gleifion a staff. Gall meddygon teulu a rhagnodwyr anfon presgripsiynau yn electronig i fferyllfa gymunedol o ddewis y claf, heb fod angen argraffu a llofnodi ffurflen bapur.
Mae symud o ddefnyddio papur i broses ddigidol yn gymhleth, ac mae’n dibynnu ar gyflenwyr TG meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol i ddylunio eu systemau i ganiatáu anfon a derbyn presgripsiynau electronig yn ddiogel. Mae cyflenwyr eraill yn y broses o uwchraddio technoleg eu system fferylliaeth cyn dechrau eu defnyddio yng Nghymru.
Derbyniodd EMIS arian gan Gronfa Arloesi Systemau Fferylliaeth Gymunedol i helpu i ddatblygu ei dechnoleg EPS. Arweinir y gronfa gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mewn partneriaeth ag IGDC ar ran Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Rydym wrth ein bodd yn gweld EMIS yn ymuno â rhengoedd cyflenwyr systemau fferylliaeth i ddatblygu rhagnodi electronig yng Nghymru. Mae’r ymdrech gydweithredol hon yn tanlinellu ein hymroddiad cyfunol i fanteisio i’r eithaf ar dechnoleg er mwyn cyflawni gwell canlyniadau gofal iechyd a chynaliadwyedd.”
Digwyddodd y defnydd prawf byw cyntaf o bresgripsiynau electronig gyda chleifion yn y Rhyl, Sir Ddinbych, ym mis Tachwedd 2023 ac mewn lleoliadau eraill yn Ne a Gogledd Cymru eleni. Bydd y gwasanaeth digidol newydd hwn yn cael ei gyflwyno’n raddol yn genedlaethol yr haf hwn.
Mae presgripsiynau electronig yng Nghymru yn un o bedair rhaglen a phrosiect a gefnogir gan y rhaglen Moddion Digidol a fydd yn sicrhau manteision dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal iechyd yng Nghymru. Bydd hefyd yn arbed hyd at 40 miliwn o ffurflenni presgripsiwn papur rhag cael eu hargraffu bob blwyddyn yng Nghymru wrth i brosesau di-bapur ddatblygu.