Trydydd parti

Mae’r gwaith o gyflwyno Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru yn cyflymu, gyda’r cyflenwr TG gofal iechyd Clanwilliam yn profi ei dechnoleg i gefnogi’r rhaglen.

Eileen Byrne Clanwilliam MD

Mae’r gwaith o gyflwyno Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru yn cyflymu, gyda’r cyflenwr TG gofal iechyd Clanwilliam yn profi ei dechnoleg i gefnogi’r rhaglen. 

Clanwilliam yw’r pedwerydd cyflenwr systemau fferylliaeth i ddatblygu meddalwedd i alluogi fferyllfeydd yng Nghymru i dderbyn presgripsiynau’n electronig.

Mae profion ar y safle ar system fferylliaeth y cwmni, RxWeb, wedi dechrau yn Fferyllfa Sully a MW Phillips yn Nhregatwg, Y Barri, y fferyllfeydd a fydd yn mynd yn fyw ochr yn ochr â Meddygfa Sully.

Os bydd y prawf yn llwyddiannus, bydd y feddalwedd yn cael ei chyflwyno mewn fferyllfeydd eraill ledled Cymru yn ddiweddarach eleni.

Mae’r gwaith yn cefnogi darpariaeth gwasanaeth presgripsiynau electronig sy’n cael ei arwain gan y rhaglen Moddion Digidol yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC).

Mae’r gwasanaeth yn galluogi meddygon teulu a phresgripsiynwyr i anfon presgripsiynau’n ddigidol i fferyllfa gymunedol enwebedig y claf, heb fod angen ffurflen bresgripsiwn papur gwyrdd. Mae hyn yn gwneud rhagnodi a dosbarthu meddyginiaethau yn fwy diogel ac yn haws i gleifion a staff gofal iechyd.

Invatech a Boots oedd y cyflenwyr systemau fferylliaeth cyntaf i gwblhau’r gwaith o brofi eu swyddogaethau presgripsiwn electronig ar gyfer Cymru. Mae Positive Solutions a Clanwilliam yn cynnal profion ar y dechnoleg ar hyn o bryd. Mae nifer o gyflenwyr systemau fferyllol eraill hefyd yn datblygu technoleg e-bresgripsiwn i’w defnyddio yng Nghymru, a bydd y rhain yn mynd trwy’r un broses brofi.

Dywedodd Jenny Pugh-Jones, arweinydd IGDC ar e-bresgripsiynau: 

“Rydym yn falch iawn o weld Clanwilliam yn cefnogi’r gwaith o ddarparu presgripsiynu electronig yng Nghymru ac rydym yn eu croesawu fel y cyflenwr system fferylliaeth diweddaraf i gyrraedd y cam hwn.

“Fel y gwelsom eisoes o safleoedd prawf byw y mabwysiadwyr cynnar, mae e-bresgripsiynau’n cael effaith fawr, gan helpu i drawsnewid y ffordd y mae practisau meddygon teulu yn gweithio a chynnig gwasanaeth mwy cyfleus i gleifion.”

Dywedodd Eileen Byrne, rheolwr gyfarwyddwr Clanwilliam: 

“Rydym wrth ein bodd medru darparu EPS i’n cwsmeriaid yng Nghymru, a chynnig y manteision a ddaw yn sgil hynny iddyn nhw a’u cleifion. Ein nod dros y blynyddoedd diwethaf oedd rhyddhau amser ar gyfer staff fferyllol drwy arloesi, ac rydym yn gweld cyflwyno EPS fel cam sy’n galluogi hyn.”

Derbyniodd Clanwilliam arian gan Gronfa Arloesi Systemau Fferylliaeth Gymunedol i helpu i ddatblygu ei dechnoleg EPS. Arweinir y gronfa gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mewn partneriaeth ag IGDC ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

“Rydym wrth ein bodd yn gweld Clanwilliam yn ymuno â rhengoedd cyflenwyr systemau fferylliaeth i ddatblygu rhagnodi electronig yng Nghymru. Mae’r ymdrech gydweithredol hon yn tanlinellu ein hymroddiad cyfunol i fanteisio i’r eithaf ar dechnoleg er mwyn cyflawni gwell canlyniadau gofal iechyd a chynaliadwyedd.”

Digwyddodd y defnydd byw cyntaf o bresgripsiynau electronig gyda chleifion yn y Rhyl, Sir Ddinbych, ym mis Tachwedd 2023 ac mewn lleoliadau eraill yn Ne a Gogledd Cymru eleni. Bydd y gwasanaeth digidol newydd hwn yn cael ei gyflwyno’n raddol yn genedlaethol yr haf hwn.

Mae presgripsiynau electronig yng Nghymru yn un o bedair rhaglen a phrosiect a gefnogir gan y rhaglen Moddion Digidol a fydd yn sicrhau manteision dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal iechyd yng Nghymru. Bydd hefyd yn arbed hyd at 40 miliwn o ffurflenni presgripsiwn papur rhag cael eu hargraffu bob blwyddyn yng Nghymru. 

Cewch ragor o wybodaeth a chofrestrwch i gylchlythyr Moddion Digidol yma.