Trydydd parti

Mae cyflenwr systemau fferyllol Invatech wedi derbyn caniatâd i gyflwyno rhagnodi electronig ledled Cymru.

A pharmacist counting pills

Mewn carreg filltir gyffrous arall ym maes rhagnodi electronig yng Nghymru, mae Invatech, y cyflenwr systemau fferyllol, wedi derbyn caniatâd i gyflwyno ei dechnoleg ledled Cymru.

Mae profion byw llwyddiannus wedi’u cwblhau ar ddau safle yng ngogledd Cymru, sy’n golygu mai Invatech yw’r cyntaf o gyflenwyr y system fferylliaeth gymunedol i fod yn barod i’w ddefnyddio’n ehangach ledled Cymru.

Mae’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) newydd yn galluogi i feddygfeydd anfon presgripsiynau’n ddiogel ar-lein i fferyllfa gymunedol o ddewis y claf, heb fod angen ffurflen bapur.

Cleifion yn y Rhyl oedd y rhai cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio presgripsiynau electronig ym mis Tachwedd 2023, pan lansiwyd y gwasanaeth yng Nghanolfan Feddygol Lakeside a Fferyllfa Ffordd Wellington y dref, gan ddefnyddio system meddygon teulu Grŵp EMIS a system fferyllfa Titan Invatech.

Ers hynny, mae cleifion yng Nghonwy hefyd wedi elwa o EPS, gyda phresgripsiynau’n cael eu hanfon o Feddygfa Plas Menai Llanfairfechan i ddwy fferyllfa: Boots yn Llanfairfechan, sy’n profi system fferylliaeth Boots ei hun, a Gwynan Edwards ym Mhenmaenmawr, sef ail safle Invatech.

Dywedodd Jenny Pugh-Jones, sy’n arwain y rhaglen Gwasanaeth Rhagnodi Electronig Gofal Sylfaenol: “Rwyf wrth fy modd bod gennym ein cyflenwr system fferylliaeth gymunedol achrededig cyntaf. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol wrth i ni ddechrau ei gyflwyno ac mae’n dangos y cydweithrediad rhwng pawb dan sylw.”

“Rydym yn gweithio i wneud gofal iechyd yn well i bawb yng Nghymru. Bydd defnyddio presgripsiynau electronig yn gwneud gwahaniaeth enfawr ac yn diweddaru presgripsiynau drwy symleiddio proses sydd heb newid ers degawdau.”

Dywedodd Tariq Muhammad, Prif Weithredwr Invatech: “Rydym wrth ein bodd mai ein system cofnodion meddyginiaeth cleifion (PMR) yw’r gyntaf i gael ei chymeradwyo ar gyfer defnydd EPS yng Nghymru. Bydd yn cynnig llawer o fanteision i gwsmeriaid Titan presennol a’u cleifion, ac rydym yn edrych ymlaen at alluogi fferyllfeydd eraill i elwa o’r manteision hyn hefyd.

“Gwyddom fod GIG Cymru a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno buddion EPS i gleifion a gwasanaethau iechyd ledled Cymru. Byddwn ni’n dechrau ein gwaith gyda’n cwsmeriaid ar unwaith fel bod modd gwireddu’r buddion hyn cyn gynted ag y bydd y meddygfeydd yn ymuno.”

Mae symud o ddefnyddio papur i broses ddigidol yn gymhleth, ac mae’n dibynnu ar gyflenwyr TG meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol i ddylunio eu systemau i ganiatáu anfon a derbyn presgripsiynau electronig yn ddiogel. Mae nifer o gyflenwyr eraill yn y broses o uwchraddio technoleg eu systemau fferylliaeth cyn dechrau eu profi yng Nghymru.

Cefnogwyd y datblygiad hwn gan Gronfa Arloesi System Fferylliaeth yn y Gymuned, a sefydlwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Moddion Digidol ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: “Mae cymeradwyo Invatech i gyflwyno rhagnodi electronig ledled Cymru yn gam mawr arall ymlaen o ran moderneiddio darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru. 

“Rydym yn manteisio ar bŵer technoleg i symleiddio prosesau, gwella gofal cleifion a chael effaith gadarnhaol ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r amgylchedd.”

Dywedodd Joanna Dundon, Arweinydd Digidol Cenedlaethol – Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Chadeirydd Grŵp Sicrwydd Cleifion a’r Cyhoedd, Rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd: “Mae’n wych gweld y nodwedd hon yn cael ei chyflwyno ar draws fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru. Bydd hyn yn gwella’r gwasanaeth i gleifion a’r cyhoedd trwy leihau faint o amser y mae cleifion yn ei dreulio ar ôl iddyn nhw archebu eu presgripsiynau rheolaidd ar-lein neu orfod teithio i’w practis meddyg teulu i gyflwyno presgripsiynau papur. Gwyddom o adborth a gawsom gan bobl sy’n defnyddio Ap GIG Cymru fod hwn yn rhywbeth maen nhw’n wirioneddol awyddus i’w ddefnyddio. Byddan nhw’n gwerthfawrogi’n fawr gweld bod eu presgripsiwn wedi’i ddigideiddio.”

Mae cyflwyno EPS ledled Cymru yn rhan allweddol o’r fenter Moddion Digidol ehangach, a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Bydd EPS yn gwneud y broses o ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Bydd hefyd yn helpu’r amgylchedd drwy arbed hyd at 40 miliwn o ffurflenni presgripsiwn papur rhag cael eu hargraffu yng Nghymru bob blwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru i gael cylchlythyr IGDC, ewch i wefan IGDC.