Trydydd parti

Mae ‘Pharma-SEE!’ yn adnodd gyrfaoedd realiti rhithwir sy'n dangos rolau fferylliaeth yn y gymuned, mewn ysbytai ac mewn practis cyffredinol. 

The Pharma-See VR headset

Mae'n darparu profiadau ymdrochol hygyrch i ysbrydoli pobl ifanc ledled Cymru a mynd i'r afael â chyswllt cynnar cyfyngedig â gyrfaoedd ym maes fferylliaeth.

Nodau’r prosiect

  • Cafodd y prosiect ei ddechrau i fynd i’r afael ag ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gyfyngedig ymysg pobl ifanc yng Nghymru o yrfaoedd ym maes fferylliaeth. Mae llawer o fyfyrwyr yn dechrau graddau mewn fferylliaeth heb ddod i gysylltiad â phractis go iawn o flaen llaw, ac mae hynny’n creu risgiau o ymddieithriad ac athreuliad.
  • Nod ‘Pharma-SEE!’ yw cynnig mynediad cynnar, teg a diddorol at brofiadau realistig ar draws lleoliadau yn y gymuned, mewn ysbytai ac mewn practis cyffredinol. Drwy ehangu cyfranogiad a chefnogi dewisiadau gyrfa gwybodus, mae'r prosiect yn cyd-fynd â blaenoriaethau gweithlu cenedlaethol i ddenu, ysbrydoli a chadw'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth.

Sut dechreuodd y prosiect

Dechreuodd y prosiect gyda ffocws clir ar ehangu cyfranogiad a moderneiddio dulliau hyrwyddo gyrfaoedd. Nododd y gwaith cwmpasu cychwynnol bod diffyg adnoddau ymdrochol a hygyrch sy'n dangos rolau fferylliaeth. Ffurfiwyd partneriaeth â Goggleminds, datblygwr VR arbenigol, i drosi'r weledigaeth hon yn brofiad realiti rhithwir diddorol. Roedd y camau cynnar yn cynnwys sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymgysylltu ag ysgolion, prifysgolion a gweithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth, ochr yn ochr â chynllunio llywodraethu, asesu risg, a phrofion peilot i sicrhau bod yr adnodd yn ymarferol, yn gynhwysol ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau datblygu'r gweithlu ledled Cymru.

Heriau’r prosiect

Roedd yr heriau allweddol yn cynnwys mynediad cyfyngedig at ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, rhwystrau technegol rhag defnyddio VR ar draws gwahanol ddyfeisiau, a chyfyngiadau o ran cyflawni'r prosiect yn bennaf fel arweinydd unigol.

Roedd lledaenu gwybodaeth hefyd yn anodd, yn enwedig o ran sicrhau mynediad cyson ar draws llwyfannau a sicrhau bod yr adnodd ar gael yn uniongyrchol i glustffonau drwy Meta Store.

Her arall oedd sicrhau ansawdd cyson ar draws amgylcheddau er mwyn cael yr effaith fwyaf bosibl. O'r rhain, dysgodd y tîm bwysigrwydd hyblygrwydd, ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac adeiladu cynlluniau cynaliadwyedd yn gynnar i wreiddio'r adnodd mewn strategaethau hyrwyddo gyrfaoedd hirdymor.

Canlyniadau’r prosiect

Llwyddodd y prosiect i gyflwyno ‘Pharma-SEE!’, sef adnodd gyrfaoedd realiti rhithwir sydd wedi’i ddatblygu’n llawn ac sy'n dangos gyrfaoedd ym maes fferylliaeth yn y gymuned, mewn ysbytai ac mewn practis cyffredinol. Dangosodd y profion peilot cynnar ymgysylltiad cryf, a disgrifiodd y myfyrwyr y profiad fel un “realistig, sy'n ymdrwytho ac yn ysbrydoli.”

Roedd yr adborth yn awgrymu bod yr adnodd yn cynyddu ymwybyddiaeth o ehangder y rolau sy’n bodoli ym maes fferylliaeth ac yn helpu i daflu goleuni ar lwybrau gyrfaoedd a oedd yn arfer bod yn anghyfarwydd i lawer.

Er bod gwaith lledaenu gwybodaeth yn eang yn parhau, mae’r prosiect eisoes wedi sicrhau amlygrwydd cenedlaethol, gan gefnogi'r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Fferylliaeth, a bwriedir ei rannu ag ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru. Mae'r adnodd yn cefnogi ehangu cyfranogiad yn uniongyrchol drwy gynnig mynediad teg a hygyrch at faes fferylliaeth i fyfyrwyr a allai fod â chyfleoedd profiad gwaith cyfyngedig.

I'r gweithlu, mae’r effaith yn gysylltiedig â denu a chymell gweithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth yn y dyfodol, lleihau'r risg o athreuliad yn ystod hyfforddiant, a chryfhau’r gallu i gyflenwi’r gweithlu yn y tymor hir. I gleifion a gwasanaethau, mae hyn yn trosi'n biblinell fwy gwybodus ac ysbrydoledig o fferyllwyr yn y dyfodol sydd wedi'u paratoi'n well i ddiwallu anghenion gofal iechyd ar draws lleoliadau amrywiol.

Mae'r prosiect hefyd wedi dangos sut y gall arloesedd digidol wella'r gwaith o hyrwyddo gyrfaoedd ym maes gofal iechyd, gan osod y sylfaen ar gyfer graddio dulliau ymdrochol ar draws proffesiynau.

Dywedodd Intern AaGIC (Awst 2025): 

“Mae PharmaSEE yn adnodd cyffrous ac arloesol sy'n cynnig profiadau ymdrochol a rhyngweithiol ym maes Fferylliaeth. Mae'n adnodd cyffrous ac arloesol sy'n dod â’r maes Fferylliaeth yn fyw. Mae'n galluogi myfyrwyr i archwilio’r maes Fferylliaeth drwy efelychiadau realistig, datblygu sgiliau hanfodol, a magu hyder mewn amgylchedd diogel a diddorol. Mae hwn yn adnodd arbennig ar gyfer addysgu a hysbysu gweithlu Fferylliaeth y dyfodol drwy helpu myfyrwyr i ddarganfod posibiliadau newydd a gwneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol. Gwych!”

Dywedodd Sue Bracegirdle, Rheolwr Gweithlu'r Dyfodol, AaGIC:

“Roedd yn ddefnyddiol ac yn ddifyr iawn gallu ei ddefnyddio a chael deall yn well sut gallai drawsnewid addysg a hyfforddiant i gofrestreion er mwyn iddyn nhw ddatblygu sgiliau ac ati yn y dyfodol. Mae'n ffordd wych o godi ymwybyddiaeth mewn ffordd mor arloesol ac yn unol â galluoedd TG y to iau o ran yr hyn rydyn ni'n ei wneud fel gweithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth.” 

Y camau nesaf

Mae'r cam nesaf yn canolbwyntio ar ledaenu gwybodaeth mewn ffordd arloesol, gan gynnwys mynediad yn syth i glustffon a chynnal ar y we i sicrhau argaeledd cyffredinol ar draws dyfeisiau. Mae'r dull deuol hwn yn cynyddu'r gallu i dyfu a thegwch, ac mae’n galluogi dysgwyr mewn unrhyw leoliad i gael gafael ar yr adnodd heb rwystrau technegol.

Y tu hwnt i faes fferylliaeth, mae'r model yn darparu glasbrint ar gyfer hyrwyddo gyrfaoedd mewn ffordd ymdrochol ar draws proffesiynau eraill ym maes gofal iechyd. Wrth ddatblygu yn y dyfodol, byddir yn archwilio camau i integreiddio mewn llwyfan gyrfaoedd digidol cenedlaethol, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr brofi nifer o rolau'r GIG yn rhithwir, ar raddfa ac ar alw, a bydd hynny’n trawsnewid y ffordd mae gyrfaoedd gofal iechyd yn cael eu hyrwyddo a'u deall.

I gael rhagor o wybodaeth am ‘Pharma-SEE!’ ac i edrych ar gyfleoedd i gydweithio neu i gefnogi ei ddatblygiadau yn y dyfodol, cysylltwch â heiw.pharmacy@wales.nhs.uk.