Nod Iechyd a Mwy yw gwneud y broses honno’n haws drwy greu llwybrau cliriach at gymorth a helpu syniadau i ddatblygu mewn ffordd sy’n ymarferol, yn berthnasol ac yn debygol o wneud gwahaniaeth.

Ar gyfer y rhaglen hon, gall arloeswyr gynnwys busnesau bach a chanolig, busnesau newydd, ymchwilwyr, cwmnïau sy’n deillio o brifysgolion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a sefydliadau sy’n datblygu cynhyrchion, gwasanaethau neu dechnolegau a allai wella iechyd a gofal cymdeithasol. 

Drwy Iechyd a Mwy, byddwn yn:

  • Rhoi mynediad i arloeswyr, busnesau ac ymchwilwyr ledled gogledd Cymru at gyngor, arweiniad a rhwydweithiau arbenigol.
  • Gwneud cymorth arloesi iechyd yn fwy gweladwy, hygyrch ac wedi’i gydlynu’n well ar draws y rhanbarth
  • Adolygu, brysbennu a chydlynu ceisiadau, ymholiadau ac atgyfeiriadau Iechyd a Mwy ledled gogledd Cymru
  • Darparu cymorth wedi’i deilwra i helpu cwmnïau i lywio’r dirwedd arloesi iechyd ac i gyflymu eu taith.
  • Cysoni gweithgarwch arloesi â blaenoriaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r ecosystem ranbarthol ehangach
  • Cryfhau’r cydweithio rhwng diwydiant, y GIG, gofal cymdeithasol a phartneriaid academaidd yng ngogledd Cymru
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu atebion sy’n mynd i’r afael â heriau gwirioneddol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan wella canlyniadau i gleifion, cymunedau a gwasanaethau.

Pa gymorth sydd ar gael?

Os oes angen help arnoch i ddeall y dirwedd iechyd a gofal cymdeithasol, cysylltu â’r partneriaid cywir, datblygu eich syniad ymhellach neu ymchwilio i lwybrau tuag at fabwysiadu, gallwch wneud cais am gymorth gan Iechyd a Mwy.

Bydd ymholiadau a cheisiadau’n cael eu hadolygu i ddeall y cyfle, yr anghenion cymorth a’r cydweddu posibl o fewn ecosystem arloesi gogledd Cymru. Bydd cyfranogwyr llwyddiannus yn cael cymorth, a allai gynnwys cyngor wedi’i deilwra, cynllunio gweithredu a chyflwyniadau i bartneriaid ac arbenigedd perthnasol.

Gall partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, sefydliadau academaidd a rhwydweithiau arloesi ehangach hefyd gefnogi’r rhaglen drwy atgyfeirio arloeswyr, rhannu heriau, neu helpu i godi ymwybyddiaeth.

Mae Iechyd a Mwy wedi cefnogi amrywiaeth o arloeswyr i ddatblygu eu syniadau a bwrw ymlaen â nhw. Wrth fyfyrio ar brofiad Healthcare Matters o’r rhaglen, dywedodd Adam Spiby, y Rheolwr Gyfarwyddwr:

“Mae rhaglen Iechyd a Mwy wedi bod yn amhrisiadwy ar gam allweddol yn ein taith, gan ddarparu anogaeth, mewnwelediad strategol a mynediad at ecosystem arloesi ehangach. Mae’r cyfleoedd fel y Panel Iechyd a Mwy wedi ein helpu i fireinio cynnig Sentrix a meithrin hygrededd.

Roedd yr ymgysylltu, y pwyntiau cyswllt amserol a’r gefnogaeth barhaus yn rhoi anogaeth i ni symud o gysyniad cychwynnol i sefydlu Sentrix fel menter gofal digidol bwrpasol. Mae’r pwynt cyswllt dibynadwy hwn drwy raglen Iechyd a Mwy wedi rhoi cipolwg, hyder a mynediad at gyfleoedd a fydd yn cefnogi ein twf a’n cydweithrediad yn y dyfodol.”

Bydd ceisiadau ar gyfer rhaglen Iechyd a Mwy yn agor yn yr Hydref.