Pennaeth Partneriaethau
Naomi sy’n arwain y tîm partneriaeth sy’n gyfrifol am ddatblygu a chyflawni partneriaethau strategol ar gyfer Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gan Naomi gefndir academaidd mewn technolegau iechyd, ac mae ganddi brofiad o arwain rhaglenni arloesi yn y rhyngwyneb rhwng y GIG, y byd academaidd a diwydiant.
Mae Naomi yn frwd dros gydweithio ac mae'n gweithio i feithrin cysylltiadau a chydweithio ar draws disgyblaethau a sefydliadau er mwyn hwyluso newid sy'n cefnogi gwella iechyd, cyfoeth a llesiant poblogaeth Cymru.
Ar ôl cwblhau ei doethuriaeth, bu Naomi yn uwch ddarlithydd a chymrawd gyda’r Academi Addysg Uwch cyn cael ei hardystio fel Ymarferydd PRINCE2 ac Ymarferydd Achos Busnes Gwell.
