Dadansoddwr Marchnad Gofal Iechyd
Ymunodd Tom â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru fel Dadansoddwr y Farchnad Gofal Iechyd. Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd BSc Biocemeg yn 2019, ymunodd â chwmni ymgynghorol ymchwil i’r farchnad bach yng Nghymru sy’n asesu dichonoldeb masnachol arloesedd ym maes biotechnoleg a gofal iechyd o brifysgolion a sefydliadau preifat gan ddefnyddio methodolegau ymchwil sylfaenol ac eilaidd. Roedd y prosiectau hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o syniadau arloesol, gan gynnwys ym maes bio-weithgynhyrchu, diagnosteg in vitro a niwroddelweddu.
Mae rôl Tom yn cynnwys dadansoddi’r farchnad fel rhan o dîm Gwybodaeth y Sector, er mwyn rhoi cipolwg ar y sectorau gwyddor bywyd a gofal iechyd yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r dadansoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio at ddibenion mewnol (er enghraifft, er mwyn helpu i lywio cyfeiriad strategol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru) ac at ddibenion allanol (er enghraifft, i ddarparu adroddiadau ymchwil i’r farchnad ar gyfer cwmnïau sy’n datblygu technolegau, cynnyrch a gwasanaethau gofal iechyd newydd).