Dadansoddwr Marchnad Gofal Iechyd
Dechreuodd Leanne ei gyrfa fel Gwyddonydd Biofeddygol, ac mae ganddi 30 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes Patholeg yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ar ôl gadael ei swydd fel Dirprwy Reolwr Gwasanaethau mewn Biocemeg, daeth Leanne yn Rheolwr Cynnyrch Grŵp mewn cwmni preifat sy’n arbenigo mewn cyflenwadau labordy a chynnyrch diagnostig.
Ymunodd Leanne â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ym mis Mawrth 2024 fel Cydlynydd Partneriaethau ac yn ddiweddar mae wedi sicrhau rôl newydd fel Dadansoddwr Marchnad Gofal Iechyd yn y tîm Gwybodaeth Sector.