Pennaeth Gwybodaeth Sector
Mae Phil yn arwain y Tîm Gwybodaeth Sector, sy’n darparu mewnwelediadau strategol a thechnegol i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Ar ôl cwblhau doethuriaeth mewn niwrowyddoniaeth, treuliodd Phil chwe blynedd ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnal gwaith ymchwil ôl-ddoethurol i agweddau ymddygiadol a moleciwlaidd ar ddysgu a’r cof. Ar ôl gadael y byd academaidd i ddilyn cyfeiriad mwy masnachol, ymunodd â chwmni ymgynghorol newydd, gan ddarparu gwasanaethau gwybodaeth fusnes i gwmnïau fferyllol mawr.
Yn 2010, dychwelodd i Brifysgol Caerdydd gyda’r Tîm Datblygu Masnachol, lle’r oedd yn gyfrifol am nodi, diogelu ac ecsbloetio Eiddo Deallusol gwerth uchel a gynhyrchwyd gan yr ysgolion gwyddorau bywyd drwy gytundebau trwyddedu a chreu cwmnïau deillio. Yn dilyn hyn, treuliodd Phil chwe blynedd gyda Banc Datblygu Cymru, yn cyrchu a gweithredu cynigion cyfalaf menter rhwng £100k ac £1.5m i gwmnïau gwyddorau bywyd twf uchel.