Arweinydd Prosiect
Ymunodd Chris â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ym mis Mehefin 2019 ac mae’n gweithio yn y tîm Digidol, Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg, gan ganolbwyntio ar Ddeallusrwydd Artiffisial a Roboteg. Mae Chris yn gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd, y byd academaidd a diwydiant i chwilio am gyfleoedd a all arwain at arloesi ar draws iechyd a gofal cymdeithasol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi rhanddeiliaid allweddol i ddeall yr heriau yn y sector a datblygu prosiectau i ddarparu datrysiadau arloesol. Mae gan Chris dros 20 mlynedd o brofiad o reoli prosiectau aml-randdeiliad yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, ac mae wedi bod yn gyflenwr i'r GIG yng Nghymru, yn ogystal â marchnadoedd gofal iechyd byd-eang. Mae Chris wedi cymhwyso yn PRINCE2 ac mae ganddo radd baglor a Diploma Ôl-raddedig yn y Gyfraith.