Arweinydd Prosiect
Dechreuodd Debbie ei gyrfa fel Nyrs Gyffredinol Gofrestredig cyn symud i faes gwerthu yn y diwydiant fferyllol, lle bu’n gweithio’n bennaf ym maes clefydau heintus (HIV). Rhwng 2011 a 2019, bu’n gweithio i fusnesau iechyd digidol newydd fel rheolwr datblygu cynnyrch a busnes ym maes diagnosteg o bell a rhagnodi cymdeithasol. Ymunodd Debbie â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gynnar yn 2020, gan weithio i ddechrau gyda Rhaglen Cyflymu. Mae hi bellach yn arweinydd prosiect ym maes Digidol a Deallusrwydd Artiffisial, gan weithio gyda diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol a’r byd academaidd i gefnogi mabwysiadu technoleg ddigidol newydd o Gymru, y DU a thu hwnt. Mae ei rôl yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, rheoli partneriaethau a sganio'r gorwel, yn ogystal â rheoli rhaglenni a phrosiectau.