Arweinydd Prosiect
Mae Sally yn Arweinydd Prosiect ym maes effaith Meddygaeth Fanwl, gan sbarduno mentrau newydd. Mae hi’n mwynhau cyfleoedd cwmpasu sy’n deillio o’r diwydiant i gefnogi heriau’r sector, gan arwain at gyflawni prosiectau arloesol yn effeithiol er mwyn sbarduno newid go iawn a gwneud cyfraniad cadarnhaol i wella gofal iechyd yng Nghymru.
Mae gan Sally yrfa fasnachol amrywiol gyda dros ugain mlynedd yn gweithio yn y sectorau olew, adeiladu ffyrdd a dyfeisiau meddygol, gyda phrofiad o reoli prosiectau, logisteg, gwerthiant technegol, gwasanaeth cwsmeriaid a marchnata a chyfathrebu.
Cyn ymuno â’r tîm, treuliodd dair blynedd yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe yn goruchwylio prosiectau trawsffiniol Iwerddon – Cymru, gwyddorau bywyd a phrosiectau gofal iechyd rhwng y diwydiant, y byd academaidd a byrddau iechyd a oedd yn ceisio sbarduno arloesi a chydweithredu.