Mae partneriaid Cyflymu, y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd Phrifysgol Abertawe (HTC), yn cydweithredu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTMUHB) i ddatblygu system arddangos ddigidol ryngweithiol newydd i'w defnyddio ar wardiau mewn pedair o ysbytai’r bwrdd iechyd
Gan gymryd ysbrydoliaeth o fyrddau gwyn traddodiadol a ddefnyddir i gadw golwg ar gleifion ar y ward, mae’r ‘e-fyrddau gwyn’ rhyngweithiol wedi cael effaith enfawr yn barod.
Yn flaenorol, roedd unrhyw wybodaeth allweddol i gleifion yn cael ei rhannu ar y ward gan ddefnyddio bwrdd gwyn ysgrifenedig a phen marcio. Mae'r system newydd hon yn lanach, yn fwy trefnus ac yn effeithlon, ac mae eisoes wedi datgelu potensial mawr ar gyfer datblygiad pellach yn yr ysbyty.
Mae'r e-fyrddau gwyn yn arddangos y ward ar ffurf map, gyda phob claf yn cael ei gynrychioli fel petryal bach. Gall staff ward gadw golwg ar anghenion ac amodau cleifion trwy addasu'r eiconau ym mhob petryal.
Mae'r eiconau hyn yn caniatáu i staff gyfathrebu â'i gilydd, cynllunio eu diwrnod, cadw golwg ar yr hyn sydd angen ei wneud, a rhannu gwybodaeth gyda chlinigwyr eraill nad ydynt efallai'n gweithio drwy’r amser ar y ward. Mae'r e-fyrddau gwyn wedi arbed amser, wedi atal gwallau, ac wedi cadw llinellau cyfathrebu yn glir ac yn effeithlon.
Mae staff wedi dod yn eiriolwyr gwych dros y system newydd ac yn parhau i fod yn allweddol yn ei datblygiad. Mae eu hanghenion yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth ddatblygu nodweddion newydd ar gyfer y byrddau.
Mae'r e-fyrddau gwyn wedi bod yn hanfodol yn ystod argyfwng Covid-19. Fel y dywedodd Tom Powell, Rheolwr Arloesi CTMUHB:
“Mae Liam [Rheolwr TG] a’i dîm wedi diwygio symbolau yn benodol ar gyfer Covid-19, gan ddatblygu nodweddion newydd i nodi hyd arhosiad y claf, a dechrau ei symptomau”.
Mae'r e-fyrddau gwyn yn parhau i esblygu i wasanaethu cleifion a staff yn well.
Gan fod yr e-fyrddau gwyn yn brosiect arloesi parhaus, roedd angen cefnogaeth arbenigol ar y tîm i ddatblygu’r cysyniad e-fwrdd gwyn ymhellach. Gofynnodd Tom Powell am gymorth y rhaglen Cyflymu:
“Mae'r fersiwn gyfredol wedi cael cymeradwyaeth eang, er mai dim ond prototeip gweithredol ydyw ac mae llawer o nodweddion a gwelliannau ychwanegol yn bosibl, gan gynnwys ymarferoldeb a gallu clinigol ehangach ar draws ein bwrdd iechyd."
Mae’r Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi ymuno â thîm e-fwrdd gwyn CTMUHB i ddatblygu ‘fersiwn 2’ o’r system gyfredol a chreu sylfaen ar gyfer y dyfodol.
Mae ATiC yn dod ag arbenigedd mewn ymchwil profiad defnyddwyr a meddwl dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr i helpu i drawsnewid datblygiadau arloesol ym maes gofal iechyd. Mae'r tîm hefyd yn cynnwys partner Cyflymu arall, sef y Ganolfan Technoleg Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n dod â galluoedd dadansoddi data ac a fydd yn mesur ac yn dadansoddi effaith y newidiadau i'r e-fwrdd gwyn ar ôl iddynt gael eu cyflwyno.
Nodau'r tîm ar y cyd yw datblygu a gwneud y gorau o ddelweddau gweledol a nodweddion yr e-fwrdd gwyn, yn enwedig yr eiconau a'r rhyngwyneb, ac asesu effaith y newidiadau hyn.
Fe wnaeth Cymrodyr Arloesi ATiC, Caroline Hagerman a Tim Stokes, gysgodi a chyfweld staff ward ar draws tair ysbyty CTMUHB i ddeall anghenion gwahanol ddefnyddwyr ac amrywiaeth y safbwyntiau am yr e-fwrdd gwyn. Bwriadwyd cynnal; gweithdy defnyddwyr yn wreiddiol, ond yn sgil Covid-19 bu’n rhaid cynhyrchu arolwg ar-lein a ddosbarthwyd i staff wardiau, wedi’i greu er mwyn archwilio barn defnyddwyr yn gyflym ar y dyluniad, y symbolau, y nodweddion newydd a llawer mwy.
Dywedodd Liam Morrisey o dîm technoleg gwybodaeth CTMUHB:
“Mae wedi bod yn wych gweithio gyda’r tîm ATiC a HTC gan eu bod wedi darparu adborth diduedd amhrisiadwy yn seiliedig ar sgyrsiau maen nhw wedi’u cwblhau gyda’r staff amlddisgyblaethol ar reng flaen ein hysbytai.”
Bydd y dyluniad e-fwrdd gwyn terfynol yn ymgorffori set o eiconau wedi'u hailgynllunio, a grëwyd mewn cydweithrediad ag asiantaeth ddylunio graffig Waters Creative. Bydd yr e-fwrdd gwyn hefyd yn dehongli adborth staff y ward i ganiatáu mwy o le ar gyfer y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Bydd hefyd yn cynnwys ffyrdd newydd o ddelweddu gwybodaeth cleifion a'i gyfleu i dimau arbennig eraill yn yr ysbyty, fel y tîm ffisiotherapi neu ddiabetes.
Mae'r prosiect wedi dangos gwerth ymchwil profiad defnyddwyr wrth ymgysylltu â defnyddwyr terfynol a chynhyrchu nodweddion defnyddiol wrth ddatblygu cynnyrch. Ychwanegodd Caroline Hagerman, Cymrawd Arloesi ATiC:
“Mae ein hymchwil wedi ein helpu i glywed gan ystod eang o leisiau mewn ysbytai, ac i ddatblygu nodweddion newydd a fydd mewn gwirionedd yn helpu defnyddwyr, nid dim ond yn cyflwyno newid er ei fwyn ei hun.”
Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.