Fel partner balch o’r rhaglen Cyflymu Cymru gyfan, gwerth £24 miliwn, wnaeth Prifysgol Abertawe sefydlu’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd, sydd wedi ei lleoli ar Gampws Parc Singleton.

Wnaeth HTC cefnogi trosi syniadau o’r sectorau Gwyddor Bywyd ac Iechyd yng Nghymru yn gynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd, gan anelu at greu gwerth economaidd hirhoedlog ochr yn ochr â manteision cymdeithasol ehangach.
Gyda thîm ymroddedig o dechnolegwyr ôl-ddoethurol, arbenigwyr gwyddoniaeth data ac arloesedd, technegwyr a rheolwyr prosiect, ynghyd â’i gyfleusterau labordy modern newydd, wnaeth HTC ategu’r gwaith datblygu technolegol a phibell feithrin yng Nghymru drwy gefnogi gweithgareddau ymchwil, menter ac arloesedd ochr yn ochr â datblygu sgiliau a gwybodaeth berthnasol.