Mae Mikoshi wedi datblygu gêm fideo sy'n seiliedig ar ymyrraeth seicolegol sy'n ymgorffori sgiliau therapi derbyn ac ymrwymiad (ACT).
Mae materion iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder yn broblem fyd-eang o bryder cynyddol. Yn anffodus, mae'r galw am wasanaethau iechyd meddwl yn llawer uwch na'r adnoddau dynol sydd ar gael sy'n gallu ateb y pryderon hyn.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gemau fideo difrifol wedi'u defnyddio i hyrwyddo rheoleiddio emosiynol mewn unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl. Er bod y strategaethau therapiwtig hyn yn arloesol, maent yn gyfyngedig o ran cwmpas triniaeth, gan ganolbwyntio'n aml ar sgiliau gwybyddol penodol, i helpu i adfer anhwylder iechyd meddwl penodol.
Astudiaeth ddichonoldeb o gêm fideo iechyd meddwl
Cydweithiodd HTC â Mikoshi ar astudiaeth ymchwil dichonoldeb i effeithiolrwydd eu gêm fideo iechyd meddwl o'r enw ACTing Minds. Cynhyrchasant holiadur addas, ffurflen gais moesegol, recriwtio â chymorth ar y cyfryngau cymdeithasol, casglu data a dadansoddi'r data holiadur.
Cynhyrchodd y project ddata y gellir ei ddadansoddi a'i ddatblygu'n bapur ymchwil, gan ddilysu effeithiolrwydd yr app gemau fideo fel ymyrraeth seicolegol ddefnyddiol.
Darren Edwards, Cyfarwyddwr Cwmni, Mikoshi:
"O ran y canlyniadau dichonoldeb, maen nhw'n addawol, gan ddangos bod cyfranogwyr wedi dysgu agweddau pwysig am ACT a sut i ymgorffori'r rhain yn eu bywydau".
Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Accelerate a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.