
Cefndir y cwmni
Mae Sugars for Health yn arbenigo mewn adnabod a datblygu cyfansoddion sy’n debyg i siwgr sydd wedi eu hechdynnu o blanhigion, iminosiwgrau. Mae’r moleciwlau hyn yn gweithredu fel therapyddion ar gyfer amrywiaeth o glefydau, gan gynnwys canser.
Heriau’r cwmni
Mae gan y tîm o Aberystwyth ddiddordeb mewn deall mecanweithiau moleciwlaidd o weithrediadau iminosiwgrau i ailysgogi’r system imiwnedd ac ymladd canser. Maent yn gobeithio y bydd modd defnyddio’r cyfansoddion ar y cyd â chemotherapi confensiynol i wella’u heffeithiolrwydd.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.