Ymchwil i ddatblygu opsiwn triniaeth cyflym, di-boen a di-gyffur i gleifion sy'n byw gydag acne cronig.
Mae'r cydweithio rhwng un o arloeswyr pennaf y byd mewn technoleg plasma nitrogen Energist Ltd, Canolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC) Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a Chanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), a wedi'i sefydlu dan raglen Accelerate Cymru gwerth £24m, sydd wedi'i hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Energist Medical Group, sydd wedi'i leoli ym Mharc Menter Abertawe, yw darparwr gwreiddiol a’r arweinydd byd-eang ym maes technoleg plasma nitrogen yn y diwydiant estheteg feddygol, gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad o ddylunio, creu a dosbarthu dyfeisiau esthetig, dermatolegol a llawfeddygol arloesol sy'n seiliedig ar ynni.
Mae dyfeisiau Plasma NeoGen™ y cwmni yn rhai anymyrrol, sydd wedi'u profi'n glinigol a'u clirio ar gyfer triniaethau cosmetig yn erbyn heneiddio a chyflyrau dermatolegol gan gynnwys creithiau acne, ceratosis actinig, rhytides ar y wyneb, rhytides nad yw ar y wyneb, briwiau croen arwynebol, ceratosis seborrheig a phapillomata feirysol.
Fel rhan o'r prosiect ymchwil gyda HTC ac ATiC, mae Energist yn awyddus i arloesi ymhellach drwy ddatblygu offer ac arferion newydd i'w defnyddio wrth drin acne cronig. Yn draddodiadol, mae acne cronig wedi cael ei drin drwy ddefnyddio cyffuriau, sy’n gallu cael effeithiau iechyd tymor hwy ar gleifion.
Cynhaliodd HTC astudiaeth in-vitro i ddilysu’r defnydd o’r dechnoleg plasma nitrogen unigryw ar gyfer trin acne, ac ymgymerwyd â’r gwaith yn y Labordy Microbioleg a Chlefydau Heintus o fewn yr Ysgol Feddygaeth.
Cafodd samplau o groen mochyn sydd wedi'u brechu â bacteria cyffredin sy'n gysylltiedig â phathoffisioleg acne, eu trin â thechnoleg plasma nitrogen arloesol Energist. Mae'r ymchwil hwn yn darparu tystiolaeth y gellir defnyddio dyfais Plasma NeoGen™ i drin cyflyrau acne cronig.
Yn ogystal â'r astudiaeth ymchwil facteriol, defnyddiodd HTC arbenigedd ei dîm i ymchwilio i gyfradd tryledu moleciwlau penodol trwy samplau croen mewn ymateb i'r driniaeth plasma. Roedd y defnydd o gelloedd Franz a chromatograffeg hylif perfformiad uchel yn mesur cyfradd trylediad moleciwlau ac yn dangos manteision posibl defnyddio dyfais Plasma NeoGen™ ar gyfer amsugno croen mwy o gynhyrchion amserol gan arwain at ganlyniadau clinigol gwell.
Roedd rôl ATiC o fewn y prosiect mewn dau faes gwahanol – astudiaeth ymchwil i nodi mannau triniaeth, a phrofiad y defnyddiwr (UX) a gwerthusiad ergonomig.
Gan ddefnyddio arbenigedd ei dîm a labordy ymchwil UX, yn ogystal â chyfleusterau olrhain llygaid symudol a phrototeipio, cynhaliodd ATiC astudiaeth UX fanwl i ymchwilio i ergonomeg a rheoladwyedd dyfais Plasma NeoGen ™.
Roedd y gwaith yn cynnwys astudiaeth o gysur a blinder defnyddwyr ar gyfer clinigwyr yn ystod gweithdrefnau, ac adolygu a nodi dulliau triniaeth cyfredol i ddeall y materion sy'n ymwneud â gor-driniaeth a than driniaeth, er mwyn darparu profiad a chanlyniad gwell i gleifion.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Accelerate a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.