Yn dilyn diagnosis o ganser y colon a’r rhefr, bydd 63% o gleifion yn cael echdoriad y colon a’r rhefr, gyda’r rhan fwyaf o gleifion yn cael anastomosis.

Siemens machine

 Trosolwg y prosiect

Gall y risg o haint o ganlyniad i anastomosis yn gollwng fod cymaint ag 20%, sy’n gallu arwain at sepsis – cyflwr sy’n peryglu bywyd ac sydd â phroffil morbidrwydd a marwolaeth uchel. Mae rhywfaint o dystiolaeth hefyd yn awgrymu y gallai gollyngiad gynyddu’r risg y bydd canser yn dychwelyd yn lleol. Er gwaethaf canlyniadau sylweddol gollyngiad anastomotig, ychydig iawn o gynnydd sydd wedi’i wneud o ran datblygu diagnosteg gynnar.

Mae gosod draeniau llawfeddygol ger yr anastomosis yn rhoi ffenestr unigryw i safle lleol y llid ac yn caniatáu i sbesimenau biolegol perthnasol gael eu samplu dro ar ôl tro mewn modd sy’n gyfleus ac nad yw’n fewnwthiol. Byddai prawf sensitif a phenodol iawn am hylif draenio ar erchwyn y gwely yn welliant diagnostig sylweddol i gleifion sy’n cael llawdriniaeth abdomenol, a gallai helpu i ganfod a thrin y rheini sydd mewn perygl o ollyngiad anastomotig.

Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar heintiau lleol sy’n deillio o ollyngiadau anastomotig er mwyn sefydlu olion bysedd imiwnedd mewn cleifion sy’n cael llawdriniaeth y colon a’r rhefr gyda anastomosis.

Cyfraniad Cyflymu

  • Datblygu prawf diagnostig manwl gywir sy’n seiliedig ar olion bysedd imiwnedd ar gyfer canfod a nodweddu gollyngiadau anastomotig ac ôl-effeithiau
  • Nodi’r gydberthynas rhwng ymatebion imiwnedd lleol a systemig mewn cleifion sydd â haint acíwt
  • Defnyddio deallusrwydd artiffisial i archwilio setiau data biofeddygol

Yr Athro Jared Torkington, Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a’r Rhefr a Chyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

“Rydym wedi canolbwyntio ein gwaith ymchwil ar brosiectau sydd â’r potensial i newid y sefyllfa’n gyflym i gleifion a gwella canlyniadau llawdriniaethau canser. Mae’n gyfle cyffrous iawn i weithio mewn tîm sy’n rhannu’r un weledigaeth”.

Canlyniadau disgwyliedig

  • • Buddion gofal iechyd i gleifion yng Nghymru drwy’r canlynol:
    • Rheoli’r risg o haint yn well
    • Gwella gofal a lles cleifion canser yn y tymor hir
  • Systemau profion diagnostig newydd ar gyfer Siemens
  • Cyflogaeth newydd yn Siemens
  • Effaith economaidd drwy wella iechyd a lles cleifion yn gynt
  • Technegau dysgu peirianyddol i wella datblygiad profion diagnostig
  • Data i fod yn sail i gydweithio pellach ar ymchwil academaidd
  • Cyhoeddiadau academaidd ac astudiaethau achos

Effaith yn y dyfodol 

  • Partneriaeth strategol rhwng Siemens a Phrifysgol Caerdydd mewn diagnosteg
  • Mwy o allu o ran ymchwil a datblygu
  • Cydweithio pellach yn y dyfodol rhwng diwydiant, y byd academaidd a phartneriaid clinigol

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner