Mae gwella iechyd menywod yn flaenoriaeth yng Nghymru, fel y tynnwyd sylw ato yng Nghynllun Iechyd Menywod GIG Cymru, sy’n amlinellu camau gweithredu ar draws wyth maes allweddol i gyflawni gwelliannau hirdymor.
Mae’r Gronfa Sbarduno Arloesedd mewn Canser Menywod yn gynllun cydweithredol rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac Academi’r Gwyddorau Meddygol. Nod y gronfa hon yw meithrin partneriaethau a darparu cyllid sbarduno i ddatblygu atebion arloesol sy’n gwella canlyniadau a phrofiadau i fenywod y mae canser yn effeithio arnynt. Bydd y rhai sy’n derbyn cyllid hefyd yn gallu cael gafael ar gymorth ymarferol gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac Academi’r Gwyddorau Meddygol.
Gwahoddir sefydliadau sydd wedi cofrestru yn y DU, gan gynnwys timau prosiect neu adrannau, i wneud cais. Edrychwch ar y Ddogfen Ganllawiau i gael manylion llawn am gymhwysedd, cwmpas a’r cymorth ychwanegol sydd ar gael.
Mae ceisiadau ar agor rhwng 3 Chwefror 2025 a 21 Chwefror 2025.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol rhai a gyflwynir yn Saesneg.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn helo@hwbgbcymru.com.