Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mewn partneriaeth ag Academi’r Gwyddorau Meddygol, cynhaliwyd digwyddiad olaf ein Rhaglen Traws-Sector ar gyfer 2024/25 yn M-Sparc, gogledd Cymru ar 5 Chwefror 2025. 

Life Sciences Hub Wales and Academy of Medical Sciences teams

Edrych ar lesiant mewn gofal canser

Dan gadeiryddiaeth Jason Lintern (Arweinydd Arloesi Iechyd, Llywodraeth Cymru), roedd y digwyddiad yn gyfle i edrych ar sut y gall addysg, arloesedd ac ymchwil lywio a gwella llesiant mewn gofal canser. Gyda grŵp amrywiol o gydweithwyr yn yr ystafell, gan gynnwys clinigwyr canser arbenigol, roedd yn amlwg bod llawer o bobl yn cyfrannu’n weithredol at wella llesiant cleifion ledled Cymru.

Rôl Canolfannau Cymorth Canser Macmillan

Rhannodd cydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Cymorth Canser Macmillan gipolwg ar sut mae gwasanaethau cymorth yn cael eu darparu ar draws tair canolfan yng ngogledd Cymru:  Ysbyty Gwynedd, Wrecsam Maelor ac Ysbyty Glan Clwyd.

Llais y claf

Roedd Lowri Griffiths (Tenovus) yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw llais y claf, a’u grymuso a'u hannog i lunio polisïau ar lefel genedlaethol a chymunedol.

Roedd ei sgwrs yn gosod y llwyfan ar gyfer trafodaethau grŵp, a oedd yn cael eu hystyried gan y rhai a oedd yn bresennol fel yr adnoddau mwyaf gwerthfawr ar gyfer gofal cyfannol, cymorth iechyd meddwl, a rhannu gwybodaeth yn effeithiol â’r rhai y mae canser yn effeithio arnynt. 

Ymchwil ar y cyd: Prosiect THRIVE

Tynnodd y digwyddiad sylw at bŵer cydweithio. Daeth Joshua Tree a Phrifysgol Edge Hill, gyda chefnogaeth North West Cancer Research, at ei gilydd i lansio prosiect THRIVE, menter sy’n canolbwyntio ar wella cymorth canser drwy ymchwil ac arloesi.

Gwersi allweddol a chyfeiriadau i’w dilyn yn y dyfodol

  • Mae’n allweddol cynnwys cleifion a’r cyhoedd yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau ac ymchwil
  • Mae gan y trydydd sector lawer o bartneriaid parod sy’n awyddus i gydweithio er budd cleifion – cysylltwch â nhw!
  • Mae cyfoeth o ymchwil ar gael, o dreialon clinigol i gynlluniau peilot – sut mae lledaenu’r dysgu hwn ledled Cymru?

Beth am gymryd rhan!

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cydweithio neu os oes gennych chi syniad i wella canlyniadau canser, cysylltwch â ni yn helo@hwbgbcymru.com.