Fe wnaethom gynnal digwyddiad traws-sector mewn partneriaeth ag Academi'r Gwyddorau Meddygol (AMS), a ddaeth ag arloeswyr, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol at ei gilydd i feithrin cydweithio ac edrych ar swyddogaeth data a thechnolegau digidol wrth drawsnewid gofal canser.
Fe wnaeth y digwyddiad, a gadeiriwyd gan Hamish Lang (Athro Arloesi ac Ymgysylltu Uwch, Busnes ym Mhrifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr Anweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru), sbarduno trafodaethau ynghylch arloesi ym maes iechyd, rhannu data a phwysigrwydd cleifion mewn sgyrsiau data, a gwneud data’n fwy hygyrch iddynt, a phwysigrwydd partneriaethau traws-sector wrth drawsnewid gofal canser.
Swyddogaeth data cleifion mewn gofal canser
Dechreuwyd y diwrnod gyda sgwrs bwerus gan Michael Handford (Athro Ieithyddiaeth Gymhwysol a Saesneg Iaith), a rannodd ei brofiadau personol fel cyn glaf canser, gan atgoffa'r ystafell o bwysigrwydd llais y claf mewn data. Gan ddefnyddio ei brofiadau ei hun, trafododd Michael sut mae data’n cael ei ddefnyddio mewn gofal canser, a’r ffyrdd y gall deimlo’n amhersonol. Fe wnaeth Michael gymharu ei driniaeth yn Tokyo, Japan, â’r driniaeth a gafodd yn Ysbyty’r Frenhines Elizabeth, yn Birmingham, y DU.
Yn 2011, ar ôl cwblhau triniaeth yn Tokyo, fe wnaeth Michael drafod sut y cynigiwyd yr opsiwn iddo fynd â 40 CD o’i ddata meddygol gydag ef. Roedd y stori hon yn tynnu sylw at y swmp enfawr o wybodaeth feddygol y mae cleifion yn ei hwynebu’n aml, ac yn cael eu gadael i ymdrin ag o – ac roedd hyn yn codi cwestiwn allweddol: Sut gall cleifion ymgysylltu’n ystyrlon â’u data iechyd eu hunain pan fo’r data’n teimlo y tu hwnt i’w cyrraedd neu’n annealladwy?
Roedd penderfyniad Michael i wrthod y CDs yn pwysleisio’r her o sicrhau bod data meddygol ar gael, a’n ddealladwy hwfyd. Fe wnaeth bwyso a mesur y driniaeth a gafodd yn Japan a'r DU, gan dynnu sylw at y gwahaniaeth yn y dulliau o ofalu am gleifion mewn gwahanol wledydd. Er bod modd cael mynediad at ofal yn gyflymach yn Japan, er fod hynny’n gostus, roedd gofal ôl-driniaeth yn Ysbyty’r Frenhines Elisabeth yn canolbwyntio mwy ar y claf, ac yn Tokyo, roedd Michael weithiau’n teimlo fel ‘achos’ yn hytrach nag unigolyn.
Amlygodd y profiadau hyn bwysigrwydd gofal personol sy'n canolbwyntio ar y claf, yn enwedig mewn triniaethau i wella o ganser. Er bod tystiolaeth feintiol yn cefnogi gwerth gofal personol, mae cleifion yn aml yn teimlo mai dim ond “dotiau ar graff” ydynt – ystadegyn yn hytrach nag unigolion ag anghenion unigryw. Esboniodd Michael fod defnyddio iaith rhy dechnegol yn gallu dieithrio cleifion, gan ei gwneud yn anoddach iddynt gyfrannu at eu gofal. Pwysleisiodd Michael bwysigrwydd dod o hyd i ffyrdd o wneud data meddygol yn hygyrch a hefyd yn ddealladwy i gleifion, gan nodi bod yn rhaid addasu potensial technoleg i ddiwallu anghenion amrywiol cleifion. Pwysleisiodd werth digwyddiadau traws-sector fel hyn, gan annog y rhai a oedd yn bresennol i ystyried sut y gallai partneriaethau ar draws gwahanol feysydd helpu cleifion i deimlo bod ganddynt fwy o ran yn eu gofal eu hunain ac arwain at strategaethau cyfathrebu gwell ym maes gofal iechyd.
Heriau a chyfleoedd o ran cael gafael ar ddata
Trafododd Pedro Ramos, Prif Swyddog Gweithredol Promptly Health, sut mae gwell mynediad at ddata’n galluogi therapïau canser i gynnig mwy o werth, gan ganolbwyntio ar ddadansoddi data yn y byd go iawn. Rhoddodd sylw i faich economaidd canser ar draws Ewrop a phwysigrwydd deall yr hyn y mae cleifion wir yn ei werthfawrogi yn eu profiadau gofal iechyd. Fe wnaeth Pedro hefyd edrych ar swyddogaeth technolegau i wella preifatrwydd o ran gwneud mynediad at ddata yn raddadwy ar yr un pryd â diogelu gwybodaeth am gleifion.
Fe wnaeth y gynulleidfa gwestiynu perchnogaeth data a hygyrchedd yng Nghymru, ac arweiniodd hyn at drafodaeth bellach ynghylch safle Cymru o ran sicrhau bod data iechyd ar gael i gleifion. Er bod cynnydd yn cael ei wneud, roedd Pedro’n cydnabod bod cyfleoedd sylweddol o hyd i gydweithio i wella fframweithiau rhannu data, a sicrhau bod gan gleifion well mynediad at eu data iechyd eu hunain.
Technolegau digidol ar gyfer gofal canser personol
Yn ogystal â’r prif gyflwyniadau, roedd y digwyddiad yn cynnwys trafodaethau o amgylch y bwrdd a oedd yn caniatáu i gynadleddwyr gael golwg fanylach ar bynciau penodol. Roedd un yn canolbwyntio’n benodol ar sut y gall cydweithio ar draws sectorau optimeiddio technolegau digidol ar gyfer gofal canser.
Fe edrychodd y cyfranogwyr heriau presennol fel integreiddio systemau iechyd o fewn y GIG, a sut y gellid gwneud gwell defnydd o offer fel apiau symudol i’w gwneud yn haws i gleifion gael gafael ar eu data. Roedd ffocws pendant hefyd ar swyddogaeth ein dyfeisiau bob dydd, fel dyfeisiau y gellir eu gwisgo fel oriawr glyfar a modrwyau, er mwyn darparu gwybodaeth iechyd amser real, sy’n gallu rhoi gwybodaeth ddyddiol i chi’n gyflymach nag apwyntiad meddyg teulu, a sut y gellid integreiddio’r rhain ar gyfer gofal personol. Er bod yr adnoddau’n cynnig manteision addawol, mynegwyd pryderon ynghylch cywirdeb y data maen nhw’n ei gasglu, yn ogystal â heriau o ran llywodraethu data a phreifatrwydd data.
Amlygodd trafodaethau allweddol hefyd fod cydweithio effeithiol ar draws sectorau - yn cwmpasu gofal iechyd, technoleg, y byd academaidd a diwydiant, yn allweddol i ddatgloi potensial technolegau a data digidol wrth wella gofal canser.
Gwersi allweddol a chyfeiriadau i’w dilyn yn y dyfodol
Cyflwynodd Ronan Lyons (Athro Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Abertawe) sesiwn ddiddorol ar sefyllfa unigryw Cymru o ran arwain dulliau data ar draws y boblogaeth o atal a thrin canser. Trafododd Ronan sut y gellid gwella llwyfannau presennol fel SAIL a SeRP drwy gydweithio agosach a thechnolegau uwch fel deallusrwydd artiffisial, a phrosesu iaith naturiol (NLP). Pwysleisiodd Ronan y dylem weld Cymru fel y lle gorau ar gyfer ymchwil canser sy’n seiliedig ar ddata, ar yr amod bod digon o ewyllys ac ystwythder i ddefnyddio’r seilwaith presennol.
Un o’r prif wersi a ddysgwyd o’r trafodaethau a’r sgyrsiau drwy gydol y dydd oedd yr angen i wneud data iechyd yn fwy hygyrch a dealladwy, yn enwedig i gleifion sydd â chyflyrau cymhleth a llethol fel canser. Gall defnyddio deallusrwydd artiffisial a thechnolegau eraill chwarae rhan fawr yn hyn o beth, ond mae’n rhaid canolbwyntio ar deilwra atebion i anghenion emosiynol cleifion unigol.
Fe wnaeth y digwyddiad dynnu sylw at bŵer cydweithio traws-sector wrth ddatblygu gofal canser, gan ddod ag arbenigwyr o feysydd gofal iechyd, y byd academaidd, diwydiant ac ymchwil at ei gilydd. Roedd y prif areithiau a’r trafodaethau drwy gydol y dydd yn nodi’n glir y gallai Cymru arwain y gwaith o integreiddio data a thechnolegau digidol. Drwy barhau i godi pontydd rhwng gwahanol sectorau, gall Cymru greu ecosystem gofal canser arloesol sy’n canolbwyntio mwy ar y claf.
Erbyn diwedd y digwyddiad, roedd gan y rhai a oedd yn bresennol ymdeimlad o bwrpas, gyda chymorth cysylltiadau a syniadau newydd ar gyfer cydweithio a allai sbarduno newid ystyrlon mewn gofal canser yn y dyfodol.
Peidiwch â cholli cyfleoedd yn y dyfodol i ddylanwadu ar ddyfodol gofal canser. I ymuno â’n digwyddiad nesaf, cysylltwch â ni yn hello@lshubwales.com