Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Daeth Prifysgol De Cymru yn hwb i ni am ddiwrnod ar ddydd Mawrth 21 Hydref er mwyn canolbwyntio ar gydweithio ar draws sectorau. 

A photo from the latest AMS event. A large group of people are sitting around tables and talking.

Daeth cydweithwyr o sefydliadau allweddol sy'n cynrychioli gofal iechyd, diwydiant, y byd academaidd a thu hwnt at ei gilydd ar gyfer digwyddiad a oedd yn edrych ar ddulliau cydweithredol o arloesi ym maes canser. Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a gynhaliodd y digwyddiad hwn mewn partneriaeth ag Academi’r Gwyddorau Meddygol.

O'r sgyrsiau cyntaf ar ôl cyrraedd, fe'm trawyd gan yr egni a'r ymrwymiad yn yr ystafell. Roedd yn glir bod pawb yma i gyfrannu, ac nid dim ond i wrando. Creodd yr amrywiaeth o safbwyntiau, o glinigwyr i eiriolwyr dros gleifion ac ymchwilwyr i arloeswyr, amgylchedd cyfoethog ar gyfer rhannu syniadau a dysgu.

Roedd y digwyddiad deinamig hwn yn ffordd bwerus o’n hatgoffa o'r egni, yr uchelgais a'r parodrwydd i gydweithio er mwyn sbarduno arloesedd ym maes gofal a thrin canser yng Nghymru. 

Uchafbwyntiau

Drwy gydol y dydd, clywsom gan bartneriaid brwdfrydig a oedd wedi rhannu eu safbwyntiau ynghylch y blaenoriaethau a'r heriau sy'n wynebu arloesi ym maes canser.

  • Safbwynt y claf: Roedd sgwrs Julie Hepburn yn atgof pwerus o'r effaith byd go iawn sy'n bosibl pan fyddwn yn cynnwys cleifion yn ein gwaith. Dangosodd geiriau Julie inni, ynghyd ag agweddau technegol a strategol arloesi, fod safbwyntiau cleifion yn hanfodol i ni gyflawni ein cenhadaeth o wella canlyniadau a phrofiadau canser i bobl Cymru.
  • Y tîm canser cenedlaethol: Amlinellodd yr Athro Tom Crosby gynnydd ac uchelgeisiau'r Tîm Canser Cenedlaethol, gan dynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer arloesi sy'n cael eu sbarduno gan wybodaeth glinigol ac ymroddiad Grwpiau Safleoedd Canser.
  • Sesiynau grŵp: Ymrannodd y rhai a oedd yn bresennol yn grwpiau i fynd i'r afael â dau bwnc: arloesedd digidol a diagnosteg gynnar. Roedd parodrwydd gwirioneddol i rannu, herio ac adeiladu ar syniadau ei gilydd, sef y math o gydweithio sydd ei angen arnom i sbarduno newid.
  • Cydweithredu i arloesi: Daeth y panel trafod â lleisiau arbenigol o bob sector at ei gilydd i drafod sut y dylem fod yn gweithio gyda'n gilydd i sbarduno newid ystyrlon yng Nghymru.
  • Moment sy'n sefyll allan: Ymunodd un panelwr â ni'n syth o alwad, gan ddod â newyddion gwych. Mae penderfyniad newydd gael ei wneud i fynd â phrosiect peilot ymlaen i fusnes fel arfer. Dangosodd y gymeradwyaeth ddigymell yr angerdd gwirioneddol sy’n bodoli ar draws y system dros yrru arloesedd yn ei flaen yng Nghymru. 

Canfyddiadau

  • Mae cydweithio’n allweddol: Roedd yr egni yn yr ystafell yn dyst i'r awydd i gydweithio. Ni allwn ei wneud ar ein pen ein hunain, ac mae gan bob un ohonom ran hanfodol i’w chwarae.
  • Arloesi sy'n canolbwyntio ar y claf: Rhaid inni gadw llais y claf wrth wraidd arloesedd er mwyn sicrhau bod atebion newydd yn diwallu anghenion pob cymuned yr effeithir arni gan ganser mewn gwirionedd.
  • Offer digidol a diagnosteg gynnar: Mae cyfleoedd yn y meysydd hyn, yn deillio o fusnesau newydd i sefydliadau etifeddol. Sut mae croesawu datblygiadau arloesol gan y ddau a phopeth yn y canol?
  • Dull gonest o fynd i’r afael â heriau: Mae rhwystrau'n amrywio o sut i symleiddio dulliau llywodraethu gwybodaeth i gael gafael ar gyllid ystyrlon. Ni ddylem anwybyddu'r heriau, ond fel cenedl, mae Cymru mewn sefyllfa wych i fynd i'r afael â'r rhain.

Beth nesaf?

Dim ond y dechrau yw'r sgyrsiau a gafwyd yn ystod y digwyddiad hwn.

  • Cadw mewn cysylltiad: Cysylltwch â’ch cyd-fynychwyr, siaradwyr neu drefnwyr i barhau â'r sgwrs. Gallwch gysylltu â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru drwy ein Ffurflen Ymholiad.
  • Gwneud cais: Os oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect cydweithredol, edrychwch ar y Gronfa Sbarduno Gofal Canser. Os ydych chi’n awyddus i archwilio cyfleoedd i dreulio amser mewn sector arall, gallai'r Dyfarniadau Profiad Traws-Sector fod yn addas i chi.
  • Mae pob llais yn cyfrif: Lledaenwch y neges am bwysigrwydd cydweithio ar draws sectorau wrth arloesi ym maes canser.

Beth am gadw’r momentwm. Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i wneud gwahaniaeth go iawn ym maes gofal canser yng Nghymru.