Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
,
-
,
Online

Ydych chi’n gweithio ym maes ymchwil ac arloesi canser, neu’n darparu gofal iechyd yng Nghymru? Ydych chi’n frwd dros sicrhau bod lleisiau’r cleifion a’r cyhoedd yn ganolog i’ch gwaith?

A woman on a laptop

Cynhelir y sesiwn ryngweithiol hon ar-lein gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mewn partneriaeth ag Academi'r Gwyddorau Meddygol fel rhan o’r Rhaglen Traws-Sector, a bydd yn edrych ar sut y gall Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd mewn ffordd ystyrlon sbarduno arloesedd ym maes gofal canser. Os ydych chi eisiau dechrau Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd yn eich gwaith, neu eisiau gwella’r ffordd rydych chi’n gwneud hynny, mae’r digwyddiad hwn yn darparu gwybodaeth ymarferol, yn rhoi cyfle i ddysgu gan gymheiriaid, ac yn rhannu enghreifftiau gwirioneddol o wahanol sectorau.

Beth i'w ddisgwyl:

  • Sesiwn wybodaeth ar feithrin ymddiriedaeth cleifion wrth arloesi ym maes canser
  • Trafodaethau mewn grwpiau ar wahân gyda chynrychiolwyr Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd a chymheiriaid
  • Arolygon byw a gweithgareddau rhwydweithio rhyngweithiol
  • Syniadau ac adnoddau i'w defnyddio yn eich gwaith
  • Cipolwg o’r digwyddiadau sydd ar y gweill a chyfleoedd cyllido

Pam dod i’r digwyddiad?

  • Rhannu argymhellion ymarferol a’r arferion gorau ar sut i gynnwys y cleifion a’r cyhoedd yn eich gwaith
  • Cyfle i glywed gan gleifion, cyfranogwyr o’r cyhoedd, a gweithwyr proffesiynol
  • Cyfle i greu cysylltiadau gydag eraill sydd wedi ymrwymo i arloesi ym maes gofal canser
  • Mynediad at adnoddau a gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar y gweill a chyfleoedd cyllido

Pwy ddylai fynychu?

Mae’r digwyddiad hwn yn agored i weithwyr o bob cam o’u gyrfa, o’r diwydiannau canlynol:

  • GIG a Gofal Cymdeithasol
  • Maes Academaidd ac Ymchwil
  • Gwyddorau Bywyd a’r Diwydiant
  • Trydydd Sector a Sefydliadau Cymunedol
  • Cynrychiolwyr Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd

Beth am i ni lywio dyfodol arloesedd ym maes canser gyda’n gilydd?

Diddordeb mewn ymuno?