Mae Cronfa Sbarduno Gofal Canser yn gynllun rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a’r Academi'r Gwyddorau Meddygol. Nod y gronfa hon yw meithrin partneriaethau a darparu cyllid sbarduno i ddatblygu atebion arloesol sy’n gwella canlyniadau a phrofiadau i gleifion sydd wedi’u heffeithio gan ganser.

Bydd y rhai sy’n derbyn yr arian o’r gronfa hefyd yn cael mynediad at gymorth ymarferol gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a’r Academi Gwyddorau Meddygol.
Gwahoddir timau prosiect, adrannau neu unigolion o fewn sefydliadau cofrestredig yn y DU i wneud cais.Edrychwch ar y Ddogfen Ganllawiau i gael manylion llawn am gymhwysedd, cwmpas a’r cymorth ychwanegol sydd ar gael.
Mae ceisiadau ar agor o 10 Medi 2025 ac yn cau ar 28 Tachwedd 2025.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol rhai a gyflwynir yn Saesneg.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn helo@hwbgbcymru.com.