Trydydd parti

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd sy'n argymell mabwysiadu dyfeisiau sbwng capsiwl yn rheolaidd i ganfod oesoffagws Barrett a chanser yr oesoffagws cam cynnar.

Doctor checking patients throat.

Mae oesoffagws Barrett yn gyflwr lle mae celloedd oesoffagws person yn dechrau newid. Dros amser, mae hyn yn cynyddu'r risg y gallent ddatblygu'n ganser.

Fel arfer, mae oesoffagws Barrett yn cael ei ddarganfod yn defnyddio endosgopi, sy'n ymledol ac sy’n gallu bod yn anghyfforddus.

Mae rhestrau aros hir ar gyfer y driniaeth hefyd.

Mae dyfeisiau sbwng capsiwl yn gapsiwlau bychain fel tabledi, y gellir eu llyncu. Maen nhw wedi'u cysylltu â llinyn. Ar ôl ei lyncu, mae'r capsiwl yn toddi, ac mae sbwng o'r tu mewn yn cael ei ryddhau ac yn ehangu. Yna, mae’r llinyn yn cael ei dynnu’n ôl i ddod â'r sbwng yn ôl i fyny trwy'r gwddf, ac mae’n casglu celloedd ar y ffordd. Yna, mae’r celloedd yn cael eu hanfon i labordy i weld a ydyn nhw'n newid siâp.

Byddai unrhyw un sydd yn cael ei ddarganfod mewn perygl uchel o gael Oesoffagws Barrett yn cael endosgopi wedyn, i gadarnhau'r diagnosis.

Yn ôl canllaw HTW, mae profion sbwng capsiwl yn dangos cywirdeb diagnostig da ar gyfer canfod Oesoffagws Barrett. Felly, mae gan y driniaeth y potensial i ddarganfod y rhai sydd fwyaf mewn perygl i gael eu blaenoriaethu ar gyfer endosgopi – a thynnu'r rhai sydd mewn llai o berygl oddi ar restrau aros.

Fodd bynnag, nid oes digon o dystiolaeth i gefnogi mabwysiadu dyfeisiau sbwng capsiwl yn rheolaidd i oruchwylio cleifion sydd eisoes wedi cael diagnosis o Oesoffagws Barrett, i wirio datblygiad eu cyflwr.

I ddarllen y canllaw yn llawn, cliciwch yma.