Mae effaith y canllawiau cenedlaethol a gyhoeddwyd gan Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi cael ei ddatgelu yn ei adroddiad archwilio mabwysiadu peilot cyntaf.
Pan sefydlwyd HTW yn 2017, gofynnodd Llywodraeth Cymru i ganllawiau cenedlaethol HTW gael statws 'Mabwysiadu neu Gyfiawnhau', ac y dylid archwilio mabwysiadu canllawiau gan y systemau iechyd a gofal.
Mae HTW bellach wedi cyhoeddi canlyniadau ei archwiliad mabwysiadu cyntaf, a gynhaliwyd fel peilot, ac astudiodd effaith wyth o ddogfennau canllaw technoleg feddygol HTW oedd wedi cael eu dewis yn benodol ar draws Cymru.
Mae'r sefydliad yn cynnal asesiad technoleg iechyd o dechnolegau iechyd a gofal sydd ddim yn feddyginiaethau, ac yn cyhoeddi canllawiau cenedlaethol ynghylch p’un a ddylid eu mabwysiadu yng Nghymru ai peidio.
Cynhaliwyd yr archwiliad i ddarganfod p’un a oedd mabwysiadu canllawiau cenedlaethol HTW wedi digwydd ar draws Cymru, a buom yn gweithio gydag arweinwyr enwebedig ym mhob un o'r byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau arbenigol a chyrff comisiynu iechyd eraill yng Nghymru i ddatblygu'r fethodoleg archwilio.
Drwy gydol y broses, bu Technoleg Iechyd Cymru yn gweithio'n agos gyda grŵp cyfoedion cenedlaethol Cyfarwyddwyr Meddygol Cymru Gyfan.
Ar y cyfan, roedd yr ymateb i'r archwiliad yn galonogol, gydag wyth o'r naw sefydliad allweddol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn darparu ymateb.
Roedd canfyddiadau allweddol yr archwiliad yn cynnwys y canlynol:
- Yn y rhan fwyaf o achosion, mae canllawiau cenedlaethol a gyhoeddwyd gan HTW yn cael effaith.
- Mae ymwybyddiaeth o ganllawiau HTW yn uchel, ac ystyrir bod y canllawiau’n cael eu deall yn dda.
- Os nad oedd canllawiau HTW wedi cael eu mabwysiadu eto neu nad oedd mabwysiadu wedi'i gynllunio, nid oedd trafferthion o ran sicrhau cyllid yn cael ei grybwyll fel ffactor.
- Ymhlith y rhwystrau i fabwysiadu, oedd anawsterau wrth weithredu technolegau ar gyfer poblogaethau cleifion bach, yr angen am flaenoriaethu’n fewnol gan gyrff eraill, a diffyg ymrwymiad gan dimau clinigol perthnasol.
Ar ôl cwblhau’r archwiliad mabwysiadu peilot, bydd archwiliad cyflawn o ganllawiau cenedlaethol HTW nawr yn cael ei gynnal yn flynyddol, gyda'r canlyniadau yn cael eu hadrodd i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Meddai'r Athro Peter Groves, Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru:
"Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'n partneriaid ar draws GIG Cymru am eu cyfraniadau gwerthfawr i'n harchwiliad mabwysiadu peilot.
"Mae'r ymarfer hwn nid yn unig wedi rhoi cipolwg pwysig inni ar effaith ein gwaith, ond mae wedi nodi rhwystrau i fabwysiadu y gellir eu cywiro hefyd o fewn y system gofal iechyd, ac wedi ein galluogi i fireinio ein proses archwilio yn y dyfodol."
Mae mabwysiadu canllawiau HTW yn allweddol er mwyn sicrhau mynediad teg i dechnolegau a modelau gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a gwireddu'r buddion disgwyliedig i bobl yng Nghymru. Bydd monitro canllawiau HTW yn rheolaidd yn cefnogi’r uchelgeisiau sydd wedi'u hamlinellu yn agenda polisi iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
Drwy gynnal archwiliadau mabwysiadu blynyddol o ganllawiau HTW a thechnolegau meddygol NICE, nod Cymru yw dod yn arweinydd byd-eang mewn hyrwyddo a monitro gwerth Asesiadau Technoleg Iechyd o ran cyfarwyddo cynllunio iechyd a gofal cymdeithasol seiliedig ar dystiolaeth.
I ddarllen yr adroddiad archwilio mabwysiadu peilot llawn cliciwch yma.