Mae arloeswyr Technoleg Iechyd yn gallu gwella eu cynlluniau gyda chymorth Technoleg Iechyd Cymru (HTW). Mae’r sefydliad annibynnol a chenedlaethol, sydd wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru, wedi lansio Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW newydd.

 

Scientific advice service

Mae’r gwasanaeth ymgynghorol arbenigol yn cefnogi arloeswyr yng Nghymru i ddatblygu tystiolaeth a dangos gwerth, sy'n ateb anghenion comisiynwyr gofal, darparwyr gofal, cleifion a defnyddwyr gwasanaethau.

Mae’n rhaid talu ffi ar gyfer Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW, ac mae’n cael ei gynnig ar gyfraddau cystadleuol iawn, mewn ymdrech i wella iechyd pobl yng Nghymru.

Mae’r gwasanaeth ar gael ar gyfer arloeswyr o bob maint; o unigolion a chwmnïau newydd, i adrannau ymchwil, SMEs a chwmnïau mawr.

Meddai Matthew Prettyjohns, ein Prif Ymchwilydd:

“Rydyn ni'n falch iawn o allu dechrau darparu Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW i arloeswyr. Rydym yn gwybod, drwy siarad â datblygwyr Tech, bod hwn yn faes lle buasent yn gwerthfawrogi mwy o gefnogaeth.

“Ein nod yw cefnogi arloeswyr i oresgyn rhwystrau i gael mynediad i'r farchnad, drwy eu helpu i gynhyrchu tystiolaeth, nodi bylchau mewn tystiolaeth, a chymryd y camau nesaf i gyflwyno technoleg i'r farchnad. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol i gwmnïau ar wahanol gamau yn eu datblygiad. Yn bwysig iawn, bydd ein cyfraniad yn eu helpu i arbed amser ac adnoddau hefyd.

Gall ein gwasanaeth annibynnol wneud gwahaniaeth mawr, drwy ddarparu arbenigedd ymchwil o ansawdd uchel. Bydd yn galluogi iechyd a gofal sy'n amlwg yn effeithiol ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac o fudd i bobl yng Nghymru."

Mae Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW yn addas ar gyfer ystod o dechnolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau, fel dyfeisiau meddygol, diagnosteg, gweithdrefnau ac ati.

Mae Technoleg Iechyd Cymru yn defnyddio Offeryn META (Medtech Early Technical Assessment Tool) y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), sef fframwaith strwythuredig ar-lein, i ddarparu Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW.

Dewch o hyd i fwy am Wasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW.