Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Technoleg Iechyd Cymru yn cynnal digwyddiad rhithwir i ddathlu ei ben-blwydd yn bump oed ar 8 Rhagfyr.

anniversary celebration

Mae Technoleg Iechyd Cymru, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2017, yn asesu technolegau iechyd a gofal nad ydynt yn feddyginiaethau, ac yn cynhyrchu canllawiau cenedlaethol ar eu defnydd yng Nghymru.

Yn ystod y digwyddiad rhithwir, byddwn yn edrych yn ôl ar ein cyflawniadau hyd yma, ac yn edrych ymlaen at y dyfodol. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol, ac i gyfarfod ar sail un-i-un gydag ymchwilydd i siarad drwy'r broses o gyflwyno pwnc i'w arfarnu.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

I gael gwybod mwy ac i gofrestru i fynychu, ewch i Eventbrite.