Mae Technoleg Iechyd Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi addunedu i gefnogi eu cylchoedd gwaith ategol a byddant yn archwilio cyfleoedd i weithio fel partneriaid ar brosiectau.

Professor Sir Mansel Aylward and Professor Peter Groves

Mae’r ddau sefydliad wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu technoleg er mwyn rhoi’r budd gorau posibl o ran iechyd i bobl Cymru. Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi’i leoli yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a bydd y sefydliadau nawr yn cydweithredu’n ffurfiol eu hymdrechion er mwyn gwella’r system iechyd a gofal.

Meddai’r Athro Peter Groves, Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru:

“Rydw i wrth fy modd ein bod yn cryfhau’r cysylltiadau sydd rhwng y ddau sefydliad. Mae nodau uchelgeisiol Technoleg Iechyd Cymru yn cael eu cyfateb gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac rydym yn cydnabod y manteision sylweddol sydd i’w cael drwy alinio ein cyfeiriad strategol a goresgyn heriau gyda’n gilydd. Mae’r gynghrair hon yn amserol a bydd yn cynorthwyo i roi canlyniadau mwyfwy effeithiol ar gyfer ein rhanddeiliaid perthnasol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.”

Meddai Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Wrth i Gymru wynebu ffocws newydd yn dilyn y risgiau digynsail a gafwyd yn sgil y Coronafeirws, ni fu rôl Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru erioed yn fwy clir. Erbyn hyn mae gan y rhwydweithiau a’r gydberthynas yr ydym wedi’u meithrin o fewn y diwydiant dros y blynyddoedd i gryfhau gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru drwy arloesedd ddiben o’r newydd ac un y mae angen rhoi sylw iddo ar frys.

“Mae ein cynghreiriau gyda sefydliadau megis Technoleg Iechyd Cymru yn parhau i ddatblygu ac nid ydynt erioed wedi bod yn gryfach. Rydym yn llawn cyffro ac ysgogiad o ganlyniad i’r gwaith eithriadol sy’n cael ei gyflawni gan y sector ac rydym yn croesawu datblygiad arloesi a mabwysiadu mewn modd na welwyd o’r blaen, ac mae’r bartneriaeth hon yn brawf o’r ymrwymiad hwnnw.” 

Corff cenedlaethol a sefydlwyd yn 2017 i weithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a thechnoleg er mwyn rhoi dull strategol ar gyfer nodi, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd newydd yw Technoleg Iechyd Cymru. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac fe’i lletyir o fewn GIG Cymru, ond mae’n annibynnol ar y ddau. Mae cylch gwaith y sefydliad yn cwmpasu unrhyw dechnoleg iechyd nad yw’n gyffur ac felly’n cynnwys dyfeisiau meddygol, gweithdrefnau llawfeddygol, therapïau seicolegol, technolegau digidol a thelefonitro.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Technoleg Iechyd Cymru

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn ysbrydoli arloesedd a chydweithredu rhwng diwydiant, maes iechyd a gofal cymdeithasol, a sefydliadau ymchwil er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl, teuluoedd a busnesau ledled y wlad. Ei genhadaeth yw cyflymu datblygiad a chyfradd fabwysiadu atebion arloesol ar gyfer gwell iechyd a les.

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru am gynorthwyo pobl Cymru i elwa gan well gofal iechyd a lles economaidd. Bydd y sefydliad yn gwneud hynny drwy weithio gyda chwmnïau arloesol i ganfod atebion ar gyfer darparwyr gofal iechyd. Mae hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â busnesau, y byd academaidd a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i gynorthwyo i gyflymu atebion arloesol sy’n rhoi twf economaidd, cyflogaeth gynaliadwy a manteision iechyd i bobl Cymru.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae’r ddau sefydliad eisoes wedi cydweithio a sicrhau canlyniadau llwyddiannus. Mae gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gynrychiolaeth ar nifer o grwpiau Technoleg Iechyd Cymru a bydd y gynghrair strategol yn arwain at ragor o gyfnewid gwybodaeth, yn cynnwys gwell mynediad at rwydweithiau o arbenigwyr.

Yn 2019, gwnaethant gydweithio i gyflwyno wyth gweithdy ar Asesu Technoleg Iechyd ac Economeg Iechyd. Cafodd dros 200 o bobl o ystod eang sectorau eu cyflwyno i gysyniadau a dulliau allweddol. Defnyddiwyd enghreifftiau bywyd go iawn i ddangos sut y gall y dulliau hyn alluogi’r broses gwneud penderfyniadau sydd wedi’i llywio gan dystiolaeth ym maes gofal.

Bydd darpariaeth Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol Technoleg Iechyd Cymru yn elwa gan atgyfeiriadau gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru pan gaiff ei lansio ym mis Medi 2020. Bydd y gwasanaeth yn cynorthwyo datblygwyr technoleg i gryfhau’r achos dros fabwysiadu eu technoleg, yn rhoi arweiniad yn y gwaith o gynhyrchu tystiolaeth ac yn nodi bylchau posibl yn ystod datblygiad technoleg.