Dod ag ymchwilwyr a rhanddeiliaid ynghyd i hyrwyddo dealltwriaeth o'r echelin perfedd-imiwnedd-ymennydd.

Bydd GIBA Network+ (y Rhwydwaith) yn darparu cyfleoedd rhwydweithio i hwyluso cysylltiadau cydweithredol agosach rhwng disgyblaethau amrywiol, gan gyfeirio at seilwaith ac adnoddau presennol y DU. Bydd ffocws cryf ar ddiwylliant ymchwil cynhwysol a chadarnhaol sy'n meithrin datblygiad a gwelededd ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn benodol.
Gwahoddir ymchwilwyr a rhanddeiliaid o bob disgyblaeth a chefndir i ymuno â digwyddiad lansio’r Rhwydwaith yng Ngwesty’r Harbour yn Southampton ddydd Llun 22 Medi 2025.
Bydd y Rhwydwaith yn talu treuliau teithio rhesymol (dosbarth economi) a/neu lety un noson os byddwch yn cofrestru cyn dydd Gwener 29 Awst. Bydd y Rhwydwaith hefyd yn talu treuliau rhesymol am gyfrifoldebau gofalu. Caiff y rhain eu had-dalu yn unol â chanllawiau UKRI.