Trydydd parti
,
-
,
Conference Centre at Coin Street, 108 Stamford Street, Llundain SE1 9NH

Bydd cynhadledd yn dwyn ynghyd arweinwyr cynaliadwyedd o’r GIG, cynrychiolwyr allweddol o sefydliadau Ewropeaidd a chlinigwyr blaenllaw.

People talking at an event

Mae’r diwydiant Tech-Iechyd wedi ymrwymo i fod yn fwy cynaliadwy. Wrth i Fap Llwybr Cyflenwyr Sero Net GIG Lloegr ddatblygu, ac wrth i wledydd eraill lunio fframweithiau tebyg, mae’n hanfodol bod cwmnïau Tech-Iechyd yn ymwybodol o'r hyn sy’n digwydd ac wedi ymbaratoi.

Er bod y daith hon yn heriol i’n sector, mae’n hanfodol cydweithio ar draws yr ecosystem gofal iechyd er mwyn cyrraedd targedau amgylcheddol a chymdeithasol, gan barhau i alw am sefydlu gofynion cymesur ar gyflenwyr sy’n rhan o gymhlethdodau cadwyni cyflenwi byd-eang, gan helpu i geisio cysoni safonau cynaliadwyedd yn well ar draws gwahanol ardaloedd daearyddol er mwyn sicrhau cysondeb a lleihau beichiau rheoleiddio.

Bydd y digwyddiad hefyd yn edrych ar bolisïau’r llywodraeth sy’n siapio’r sector, gan sicrhau bod busnesau’n deall y dirwedd reoleiddio ehangach.

Dyma'r tro cyntaf i'r gynhadledd gael ei chynnal wyneb yn wyneb, felly mae am fod yn ddiwrnod diddorol a threiddgar yn llawn sesiynau dan arweiniad arbenigwyr a chyfleoedd i gysylltu â chyfoedion sydd wedi ymrwymo i sbarduno cynaliadwyedd ym maes gofal iechyd.

Diddordeb mewn mynychu?