Mae dyfodol Cymru yn galw! Ymunwch â miloedd o bobl ar draws pob sector i ddarganfod cymwysiadau technoleg yn y byd go iawn i gyflymu eich perfformiad, eich cynhyrchiant a’ch gwytnwch wrth i'r amgylchedd newid drwy’r amser.

Os ydych chi’n arweinydd yn y diwydiant, yn arloeswr, yn fuddsoddwr neu’n entrepreneur, dyma gyfle i chi gysylltu, cydweithio a chael eich ysbrydoli.
Mae Wythnos Technoleg Cymru yn cysylltu, yn hyrwyddo ac yn datblygu Cymru fel canolfan arbenigedd a chyfleoedd ar gyfer technolegau galluogi a datblygol, a’u cymwysiadau ar gyfer busnes a chymdeithas heddiw. Mae'n tynnu sylw at rôl hanfodol mabwysiadu technoleg i sefydliadau ar draws pob sector er mwyn arloesi a ffynnu yn y byd sydd i ddod.
Gan ddenu siaradwyr o’r radd flaenaf, arloeswyr technoleg blaenllaw, prif swyddogion y llywodraeth, buddsoddwyr allweddol a chynulleidfa fyd-eang, ymunwch â ni wrth i ni dynnu sylw rhyngwladol at Gymru a’i holl arbenigedd ym maes technoleg.