Trydydd parti
,
-
,
15 Hatfields Conference Centre, London

Nod y gynhadledd hon yw sicrhau bod y sector gwyddorau bywyd yn cyd-fynd â'r uchelgeisiau polisi ar gyfer cyflawni sero net.

A man speaking at a lecture

Bydd rhanddeiliaid a llunwyr polisïau yn trafod blaenoriaethau strategol a’r camau nesaf, gan gynnwys yr arferion gorau a sut mae sefydliadau mawr ym maes gwyddorau bywyd yn mynd i’r afael â heriau.

Mae’r diwydiant iechyd a gwyddorau bywyd dan bwysau cynyddol i fynd i’r afael â materion cynaliadwyedd, yn enwedig allyriadau carbon. Ac er ei fod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn hyn o beth, mae’r her anoddaf yn dal i fodoli.

Er bod y diwydiant gofal iechyd yn gyfrifol am achub miliynau o fywydau dynol, mae ei waith yn golygu cost sylweddol i’r amgylchedd.

Y diwydiant gofal iechyd sy'n gyfrifol am 4.4 – 4.6% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd a chanrannau tebyg o lygryddion aer gwenwynig, felly mae ymysg y sectorau gwasanaeth mwyaf carbon-ddwys yn y byd diwydiannol.

Mae’r GIG wedi ymrwymo i gyrraedd sero net erbyn 2040 ar gyfer yr allyriadau maen nhw’n eu rheoli’n uniongyrchol, ac erbyn 2045 ar gyfer yr allyriadau maen nhw’n dylanwadu arnynt, drwy’r nwyddau a’r gwasanaethau rydym ni'n eu cael gan ein partneriaid a’n cyflenwyr.