Mae Cynhadledd ETRS yn hyrwyddo’r gwaith o gyfnewid gwybodaeth rhwng ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn gwella clwyfau, creithio, peirianneg meinweoedd a meddygaeth adfywiol, sy'n gysylltiedig â'r croen a meinweoedd eraill yn y corff.

Mae'r Gynhadledd tri diwrnod yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd pwnc sy'n berthnasol i atgyweirio meinweoedd yn ystod iechyd ac afiechyd, peirianneg meinweoedd a meddygaeth adfywiol, o dreialon clinigol (bioleg celloedd a bôn-gelloedd, bioleg foleciwlaidd, signalau celloedd, microbioleg, gwyddor bioddeunyddiau, datblygiad therapi, a modelau anifeiliaid), i dreialon clinigol a gwerthuso therapi mewn cleifion.
Bydd y Gynhadledd yn berthnasol i gwmnïau sydd â phortffolios cynnyrch a chwsmeriaid targed yn y meysydd hyn.