Trydydd parti
      
                        ,
                                                        
                                                            -
                                
                                                                    ,
                                                                
                                                    
                            
                        Faculty of Health and Life Sciences, Oxford Brookes University Marston Road, Oxford OX1 0FL
            
                        
                        
                        Diwrnod llawn dop o weithdai a rhwydweithio, gyda siaradwyr gwadd a lolfa newydd i werthwyr ym Mhrifysgol Oxford Brookes.
 
      
                          
                                              Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i chi ymwneud â chwmnïau meddygol/efelychu ac archwilio eu cynnyrch a allai fod o fudd i’ch sefydliad chi.
Bydd cyfleoedd hefyd i fynychu gweithdai a fydd yn datblygu eich gwybodaeth yn y byd Efelychu.
Mae Diwrnod Technoleg Efelychu y De hefyd wedi cyhoeddi ei siaradwyr:
- Mae Dr Simon Breeden yn rhan o Sefydliad Sgiliau a Strategaethau Technegol y DU. Drwy ei angerdd dros gael mwy o amlygrwydd a chydnabyddiaeth i dechnegwyr, chwaraeodd ran allweddol yn sicrhau bod Prifysgol Efrog yn un o lofnodwyr sefydlol yr Ymrwymiad i Dechnegwyr yn 2017, gan sbarduno newid sefydliadol a diwylliannol i dechnegwyr yn ei brifysgol.
- Mae’r Athro Nigel Crook yn Athro Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg, yn Ddeon Ymchwil ac Arloesedd, ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer AI, Diwylliant a Chymdeithas ym Mhrifysgol Oxford Brookes.
Mae Adam Rouilly Limited, Limbs & Things a SMOTS/Scotia UK plc eisoes wedi’u cadarnhau, a bydd rhagor o werthwyr yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.
                        Diddordeb mewn ymuno?