Rewired 2026 yw’r arddangosfa iechyd digidol fwyaf yn y DU. Mae’n cysylltu pawb sy’n gweithio i ddefnyddio digidol a data i sicrhau gwelliannau mewn iechyd a gofal.

Mae'r digwyddiad yn dod â darparwyr a chynllunwyr gofal iechyd, ymchwilwyr ac academyddion, arweinwyr sefydledig o ddiwydiant, cyflenwyr a'r busnesau newydd diweddaraf a mwyaf cyffrous ynghyd i roi sylw i sut mae'r GIG yn sicrhau cynhyrchiant, tegwch a chanlyniadau gwell drwy dechnolegau ac arloesiadau ym maes iechyd digidol.
Bydd y sioe’n cael ei chynnal ar 24-25 Mawrth 2026 yn Neuadd 2, yn yr NEC yn Birmingham, a bydd yn llawn gwybodaeth ac ysbrydoliaeth i unrhyw un sydd eisiau dysgu gan siaradwyr iechyd digidol gorau’r DU ac astudiaethau achos o’r GIG.
Os ydych chi’n awyddus i wneud pethau gwych ym maes iechyd digidol, Rewired yw’r digwyddiad hanfodol ar gyfer rhwydweithio, dysgu a datblygu eich gyrfa.