Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Step complete
Step complete
Step complete

Mae poblogaeth hŷn Cymru yn tyfu’n gyflym, gan ddisgwyl cynnydd o 40% yn nifer y bobl 65 oed a hŷn erbyn 2041. Un o’r problemau iechyd dybryd sy’n wynebu’r demograffig hwn yw dysffagia’r oroffaryngeol, anhawster llyncu sy’n gallu arwain at ddiffyg maeth, heintiau, a hyd yn oed marwolaeth.  

Er bod hon yn broblem ddifrifol, mae llwybrau gofal i ganfod ac i reoli dysffagia yn dal yn ddigyswllt, gan arwain at oedi mewn asesiadau, mwy nag un rhestr aros, a mynediad cyfyngedig at gymorth arbenigol, yn enwedig mewn cartrefi gofal. Roedd model gwasanaeth integredig newydd yn cynnwys Therapi Iaith a Lleferydd, Maeth a Deieteg, a Fferylliaeth yn defnyddio teleiechyd ac mae wedi dangos canlyniadau gwell. Fodd bynnag, mae effeithiolrwydd y dull hwn yn cael ei gyfyngu gan drosiant uchel staff cartrefi gofal a hyfforddiant anghyson ar driniaethau risg uchel fel asesiadau llyncu. Yn aml, nid oes gan staff yr hyder na’r sgiliau ymarferol i reoli’r digwyddiadau risg uchel hyn yn ystod ymgynghoriadau ar-lein. 

Beth yw'r datrysiad?  

Mae'r prosiect hwn yn cyflwyno dull dysgu hybrid, gan gyfuno hyfforddiant efelychu wyneb yn wyneb a realiti rhithwir. Mae’r system realiti rhithwir arloesol hon, a ddatblygwyd gan Goggleminds, yn rhoi senarios tebyg iawn i rai go iawn i staff gofal. Mae’r efelychiad realiti rhithwir yn galluogi staff gofal i adnabod arwyddion cynnar o ddysffagia, atal digwyddiadau, ac ymateb i argyfyngau fel tagu, heb risg i breswylwyr. Mae’n galluogi amgylchedd cyflymach a mwy effeithiol. 

Nodau’r Prosiect

  • Rhoi’r sgiliau i staff cartrefi gofal i ymateb yn hyderus ac yn effeithiol i ddigwyddiadau llyncu risg uchel.
  • Lleihau derbyniadau i’r ysbyty oherwydd rheoli dysffagia yn rhagweithiol.
  • Creu fframwaith cymhwysedd i staff gofal sy’n ymwneud ag ymgynghoriadau teleiechyd risg uchel.
  • Meithrin cydweithio cryfach rhwng therapyddion iaith a lleferydd, deietegwyr, fferyllwyr a thimau gofal cymdeithasol. 

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Hyfforddiant Realiti Rhithwir, cysylltwch drwy anfon e-bost at helo@hwbgbcymru.com.

Awdurdod Lleol
  • Pen-y-Bont
Bwrdd Iechyd
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Partneriaid / Ffynonellau Cyllid

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg  

Goggleminds 

Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr  

Cymunedau Digidol Cymru  

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru 

  • Diweddariadau
  • Canlyniadau
Completed

Cwmpasu’r prosiect

Mawrth 2024 

Completed

Cam un

Cydweithio, grwpiau ffocws, ac adborth i lunio’r modiwlau hyfforddi

Completed

Cam dau

Datblygu’r modiwlau realiti rhithwir yn weithredol gyda Goggleminds, gan gynnwys byrddau stori a dylunio

Completed

Cam tri

Mireinio a chyflwyno’r modiwl, gan gynnwys hyfforddiant i staff gofal cartref a Chwm Taf

Completed

Cyflwyno’r Hyfforddiant Realiti Rhithwir

Mawrth 2025 

Completed

Gwerthuso ac adrodd ar ganlyniadau

Gorffennaf 2025 

Canlyniadau – a ragwelir  

Disgwylir i’r prosiect yn arwain at fanteision sylweddol i ddefnyddwyr ac i’r system ofal. Drwy wella’r ffordd caiff dysffagia ei rheoli, ei nod yw lleihau achosion o ddiffyg maeth, heintiau a derbyniadau i ysbytai ymhlith preswylwyr cartrefi gofal. Bydd canfod anawsterau llyncu’n gynt a’u rheoli’n well yn helpu preswylwyr i fwynhau gwell iechyd yn gyffredinol, ac ansawdd bywyd gwell.  

Bydd y prosiect hwn yn ceisio gwella hyfforddiant a rhoi hwb i hyder staff gofal cymdeithasol, gan eu grymuso i ddelio’n effeithiol â sefyllfaoedd risg uchel. Ar ben hynny, bydd hyn yn symleiddio llwybrau gofal, gan greu dull mwy cydlynol o reoli dysffagia a sicrhau gwell cydweithio ar draws timau gofal iechyd.