Yn ystod y prosiect hwn, cynhaliwyd cynllun peilot i fonitro cleifion sydd â phroblemau cardiaidd (methiant y galon) ledled Cymru gan ddefnyddio ap yn eu cartrefi eu hunain. Mae Huma, platfform monitro cleifion o bell, yn rhannu gwybodaeth iechyd rhwng cleifion a thimau clinigol. Mae ei dechnoleg yn cynnwys Ap Cleifion ar ffonau clyfar a Phorth i Glinigwyr ar borwyr gwe. Mae’r Ap Cleifion yn cofnodi data iechyd, fel curiad y galon, pwysedd gwaed, dirlawnder ocsigen, tymheredd a phwysau.
Y nod oedd deall yn well a yw monitro cleifion o bell yn gallu helpu i wella profiad, gofal, canlyniadau ac effeithlonrwydd o fewn llwybr methiant y galon.
Cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y cynllun peilot yn eu hardaloedd, gyda chleifion methiant y galon a oedd wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty yn defnyddio’r dechnoleg i fonitro eu cyflyrau.
Cafodd y prosiect ei ariannu gan Gronfa Atebion Digidol Llywodraeth Cymru, gyda DHEW yn cydlynu’r gronfa hon ac yn darparu cyngor a chymorth rheoli prosiect drwy gydol y cynllun
Gwyliwch yr astudiaeth achos digidol
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Huma – Partner Diwydiant
- Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC) – Rheoli Prosiectau
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Llywodraeth Cymru – Cronfa Atebion Digidol
Dyfarnwyd £150,000 ar gyfer datrysiadau digidol mewn ymateb i COVID-19
Lansio Cynllun Peilot Monitro Cleifion Cardiaidd o Bell yng Nghymru
Cymeradwyaeth defnyddwir
Gwyliwch: David Watkins yn siarad am defnyddio Ap monitor methiant y galon o bell
Peilot monitro cleifion o bell ar y rhestr fer ar gyfer dwy wobr uchel ei pharch HSJ
Roedd y cynllun peilot yn tynnu sylw at rai arferion gorau, gan gynnwys yr angen i reoli a chyfathrebu’r prosiect yn barhaus, a sut gall amser clinigol pwrpasol gan bob Bwrdd Iechyd gefnogi gofynion lleol fel llywodraethu gwybodaeth.
Mae’r prosiect hefyd wedi helpu i nodi heriau posibl ar gyfer parhau ac ehangu’r defnydd o dechnolegau Huma wrth fonitro cleifion o bell yn y dyfodol. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Cefnogi Byrddau Iechyd ar gyfer opsiynau ariannu cynaliadwy ar gyfer prosiectau peilot llwyddiannus
- Yr angen i symleiddio prosesau llywodraethu gwybodaeth er mwyn ei gwneud yn haws ac yn gynt i Fyrddau Iechyd fabwysiadu technolegau sydd wedi’u profi
- Ffactoreiddio llythrennedd ffonau clyfar fel rhwystr posibl i’r nifer sy’n eu defnyddio
Dangosodd y cynllun peilot fod monitro cleifion o bell yn caniatáu adnabod arwyddion o ddirywiad yn rhagweithiol, lleihau’r amser a gymerir i wneud y gorau o feddyginiaeth, gwella profiad cleifion a darparu gofal yn fwy effeithlon. Arweiniodd hyn at ostyngiad yn nifer y derbyniadau i’r ysbyty a chaniatáu i rai cleifion gael eu rhyddhau’n gynnar gan eu bod yn cael eu monitro’n ddiogel o’u cartref.
Drwy wirio metrigau’n rheolaidd fel cyfradd curiad y galon a lefelau ocsigen, gallai timau clinigol weld cleifion yr oedd angen rhagor o brofion, cymorth neu driniaeth arnynt yn gynharach na’r disgwyl.
Mae Cwm Taf Morgannwg wedi darparu cyllid ychwanegol i gefnogi’r gwaith o werthuso’r rhaglen gan ddefnyddio fframwaith Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth.