Mae cydweithrediad ar draws sectorau sy’n asesu ac yn nodi effeithiau technoleg monitro o bell ar gleifion, gofal a chanlyniadau clinigol wedi cael ei enwebu yn y categori ‘Gwobr Digideiddio Gofal Cleifion’ yng Ngwobrau HSJ a chategori ‘Menter Gofal Rhithwir neu Anghysbell y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Diogelwch Cleifion HSJ.
Mae’r cynllun peilot parhaus hwn wedi golygu bod y cwmni technoleg iechyd digidol Huma, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i werthuso technoleg lle gall clinigwyr fonitro arwyddion hanfodol cleifion sy’n dioddef o fethiant y galon pan nad ydynt yn yr ysbyty.
Mae technoleg monitro o bell Huma yn caniatáu i gleifion rannu gwybodaeth glinigol bwysig gyda chlinigwyr gan ddefnyddio eu ffonau clyfar. Drwy gyfrwng y rhaglen, gall cleifion gofnodi amrywiaeth o ddata i glinigwyr gan gynnwys pwysau gwaed, cyfradd curiad y galon a symptomau sy’n datblygu. Mae hyn yn caniatáu i dimau clinigol adolygu data ar unwaith drwy ddangosfwrdd diogel sydd, yn seiliedig ar drothwyon a ddewiswyd gan glinigwyr, yn rhoi gwybod os oes angen i glinigydd adolygu unrhyw ddata gan y claf er mwyn asesu’r angen am ymyriad meddygol.
Mae’r cynllun peilot parhaus yn un o nifer o dechnolegau monitro o bell sydd i’w cyllido fel rhan o Gronfa Atebion Digidol Covid-19 Llywodraeth Cymru, ac mae’n cael ei gefnogi gan dimau o Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Cafodd y cynllun peilot ei gyflwyno ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg nawr yn ei werthuso gan ddefnyddio ffocws Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth i edrych ar effaith technoleg monitro o bell ar brofiad cleifion, canlyniadau clinigol, amseroedd aros ac effeithlonrwydd costau. Yn ôl data a gasglwyd o’r cyfnod peilot tri mis, gallai monitro o bell symleiddio prosesau gofal ar gyfer cleifion y galon.
Mae Gwobrau HSJ, sydd bellach yn 43 oed, yn seremoni fawreddog sy’n dathlu llwyddiannau ar draws y sector gofal iechyd yn y DU. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar 18 Tachwedd yn Evolution London. Bydd enillwyr Gwobr Diogelwch Cleifion HSJ yn cael eu datgelu ar 15 Medi yn Manchester Central.
I ddysgu mwy am dechnoleg monitro o bell Huma, ewch i’w gwefan.
Dywedodd Dee Lowry, Pennaeth Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
“Mae ein Bwrdd Iechyd yn falch iawn o gymryd rhan yn y cynllun peilot parhaus hwn er mwyn i ni allu profi a nodi effaith monitro o bell ar brofiad cleifion a chanlyniadau clinigol, amseroedd aros ac effeithlonrwydd costau. Mae’r gwaith hwn yn gysylltiedig â’n hymrwymiad i wella gofal a chanlyniadau i gleifion ar gyfer ein poblogaeth CTM drwy ddull Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ar gyfer arloesi digidol mewn gofal iechyd.
“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n defnyddio dull Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth i werthuso’r cynllun peilot hwn, ac rydyn ni’n disgwyl iddo gael ei gwblhau ddechrau’r Hydref.
“Mae’r cynllun peilot hwn yn un o nifer o brosiectau arloesi a gofal iechyd seiliedig ar werth rydyn ni’n eu cynnal yng Nghwm Taf Morgannwg. Bydd y dysgu’n helpu i lywio ein cyfeiriad strategol a’n modelau darparu gofal cynaliadwy wrth symud ymlaen, gan sicrhau ein bod yn gallu darparu’r gofal a’r cymorth iechyd a llesiant gorau posibl i’n cleifion.”
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn falch o gefnogi’r cynllun peilot hwn o’r dechrau i’r gydnabyddiaeth gyffrous hon gan Wobrau HSJ. Mae gan dechnoleg monitro o bell fel hyn y potensial i ddod â gofal yn nes at adref a gwneud gwasanaethau’n fwy effeithlon i gleifion a staff. Mae ein sefydliad bob amser yn ceisio cefnogi arloeswyr gydag atebion digidol newydd. I weld sut gallwn ni eich cefnogi chi, llenwch y Ffurflen Ymholiad Arloesi ar ein gwefan.”
Dywedodd Mandie Welch, Ymarferydd Nyrsio Uwch Arweinydd Methiant y Galon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
“Fel clinigydd, rydw i wedi bod yn rhan o’r gwaith arloesol hwn ers y dechrau. Mae’r ap monitro o bell wedi newid y ffordd rydyn ni’n darparu gofal methiant y galon; mae wedi hwyluso’r broses o optimeiddio therapi meddygol sy’n cael ei arwain gan ganllawiau mewn modd amserol, mae wedi lleihau apwyntiadau wyneb yn wyneb diangen ac wedi darparu arwyddion cynnar o fethiant y galon - gall y rhain i gyd arwain at ostyngiad yn nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty ac ansawdd bywyd gwell.”
Dywedodd Vicki Jenkins, Ymarferydd Nyrsio Uwch Cardiograffeg a Cardiaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
“Rydw i wedi dysgu llawer o bethau newydd fel rhan o’r tîm aml-asiantaeth ehangach wrth ddatblygu Huma, sef ap i fonitro methiant y galon o bell yn ddigidol. Mae wedi bod yn ychwanegiad gwych at ddarpariaeth gofal fy ngwasanaeth ac mae wedi fy helpu i adnabod cleifion sy’n dirywio ac addasu eu gofal a’u meddyginiaeth er mwyn osgoi gorfod mynd i’r ysbyty. Mae wedi bod yn gyfrwng defnyddiol i sicrhau fy mod yn gallu darparu’r gofal gorau ar yr adeg fwyaf priodol.”
Dywedodd Dr Jonathan Gledhill, Pennaeth Gofal Iechyd yn Huma:
“Mae ymateb clinigwyr a chleifion y GIG i dechnoleg Huma wedi bod yn anhygoel. Rydyn ni mor falch ein bod ni wedi gallu helpu i newid bywydau cleifion a gwybod bod y wardiau rhithwir hyn, gyda’n help ni, yn gwneud gwahaniaeth go iawn.