Mae cyllid wedi’i ddyfarnu i bum menter iechyd ddigidol yn sgil galwad gwerth £150,000 am gynigion ar gyfer ffyrdd newydd ac arloesol o ddefnyddio technoleg ddigidol mewn ymateb i’r coronafeirws a’r tu hwnt.

Woman wearing VR headset

Bydd y pum menter fuddugol a gyhoeddwyd heddiw [dydd Iau 25 Mehefin] yn helpu i brofi a gwerthuso llwyfannau, apiau a thechnolegau digidol newydd yn gyflym er mwyn darganfod a oes ganddynt y potensial i fod o ddefnydd yn yr hirdymor.



Dewiswyd yr enillwyr gan banel sy’n cynnwys y GIG, Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr diwydiant, a chydlynwyd ymatebion gan Ecosystem Iechyd Digidol Cymru.



Dyma’r pum enillydd:

  • PhysioNow gan Connect Health – sgyrsfot ffysiotherapi i ddarparu gwasanaeth brysbennu a chymorth 24/7 ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol

     
  • Medopad gan Huma Therapeutics – system i fonitro cleifion o bell, mewn amser real, i alluogi cleifion symptomatig i aros gartref yn hytrach na mynd i’r ysbyty

     
  • MedTRiM gan DNA Definitive – gwasanaeth wyneb yn wyneb o fewn GIG Cymru ar hyn o bryd, bydd yr ap yn golygu y bydd cymorth i’r rhai sy’n wynebu trawma yn y gweithle yn gallu parhau yn ddigidol

     
  • CliniTouch Vie gan Spirit Digital – monitro cleifion i helpu i reoli cleifion COVID-19 yn y gymuned ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty

     
  • SPOT gan Healthy.IO – ap asesu clwyfau sy’n sganio clwyfau ac yn rhannu’r delweddau â nyrsys hyfywedd meinwe, nyrsys ardal a meddygon teulu er mwyn eu hasesu ymhellach.

Dywedodd Andy McCann, Cydgyfarwyddwr DNA Definitive, cwmni o Gymru a datblygwyr yr ap MedTRiM:

"Mae’r cyfle hwn wedi creu partneriaeth gydweithredol unigryw a fydd yn cynorthwyo GIG Cymru i ddarparu ei wasanaethau drwy gydol yr ymateb i bandemig presennol COVID-19 a’r tu hwnt.



“Byddwn nawr yn datblygu ac yn profi cwrs ar-lein ar gyfer dygymod â thrawma yn seiliedig ar ein rhaglen uchel ei pharch, MedTRiM. Bydd modd inni hefyd gynnig y cwrs yn eang. Bydd yn darparu fframwaith dibynadwy i reoli canlyniadau seicolegol niweidiol ymysg staff sy’n wynebu digwyddiadau a all fod yn drawmatig yn y gwaith. Bydd hefyd yn datblygu ymarferwyr i gynorthwyo arweinwyr a rheolwyr sefydliadol i gefnogi cydweithwyr gyda’r agweddau seicolegol ar ddigwyddiadau a all fod yn drawmatig."



Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Wrth inni symud tuag at ‘normal newydd’, gall mentrau arloesol fel y llwyfannau hyn ein cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau iechyd mewn ffordd wahanol ond diogel.



“Mae’r enillwyr a gyhoeddwyd heddiw yn dechrau ar gyfle ardderchog i brofi a datblygu technolegau sy’n cynnig yr effaith fwyaf a’r gwerth gorau ar gyfer materion iechyd amrywiol, er budd staff a chleifion."

Dywedodd Helen Northmore, Rheolwr rhaglen Ecosystem Iechyd Digidol Cymru, sy’n gydweithrediad rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru:

"Gwnaeth ehangder ac ansawdd y ceisiadau i’r Gronfa Atebion Digidol gryn argraff arnom – roedd yn ysbrydoliaeth gweld cymaint o ffyrdd newydd ac arloesol o ddefnyddio technoleg i gefnogi cleifion, staff a dinasyddion.



“Mae’r prosiectau a ddewiswyd yn dangos sut y gall atebion digidol roi’r offer i bobl i’w helpu i reoli eu cyflwr a’u lles gartref neu yn y gwaith. Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld canlyniadau’r profion cyflym yn nes ymlaen yn yr haf."