Cydweithrediad rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Sgrinio Serfigol Cymru, gyda'r nod o lywio cymorth penderfynu ar y cyd ar gyfer hunan-samplu HPV.
Mae'r cydweithrediad hwn, dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Sgrinio Serfigol Cymru, yn ceisio datblygu a threialu offeryn gwneud penderfyniadau i gefnogi hunan-samplu HPV ar gyfer sgrinio serfigol yng Nghymru. Drwy ddefnyddio gwybodaeth gan breswylwyr a phartneriaid, nod y prosiect yw darparu cymorth penderfynu hygyrch ar y cyd i wella dealltwriaeth a chynyddu’r nifer sy’n cael prawf sgrinio ledled Cymru.
Mae sgrinio am Papilomafeirws Dynol (HPV) yn lleihau'r risg o ganser ceg y groth 70%. Er bod profion sgrinio cyffredin, a phrofion sgrinio cheg y groth (a elwir yn ‘smear test’), ar gael yn eang yng Nghymru, mae cyfraddau cyfranogiad wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn ardal Hywel Dda, sydd â’r cyfraddau presenoldeb isaf yng Nghymru. Gall gohirio profion arwain at ddiagnosis hwyr o ganser, sy'n arwain at ganlyniadau gwaeth. Mae dulliau hunan-samplu, fel swabiau a samplau wrin, yn cael eu treialu yn y DU.
Mae'r prosiect hwn yn archwilio potensial hunan-samplu HPV yn y cartref fel dewis amgen i brofion traddodiadol mewn clinig, a allai gynyddu cyfraddau sgrinio a blaenoriaethu'r rhai sydd angen cymorth a gofal pellach.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi hwyluso cydweithio hanfodol rhwng rhanddeiliaid allweddol. Mae ein cymorth a’n gweithgareddau’n cynnwys cefnogi prosiectau, rhwydweithio, datblygu arolygon, a chydlynu rhanddeiliaid, gwella cynnydd a chanlyniadau prosiect effeithiol, i drawsnewid sgrinio serfigol yng Nghymru.
Nodau’r Prosiect:
- Arolygu pobl gymwys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am eu dealltwriaeth o HPV, eu presenoldeb mewn sgrinio serfigol, a'u barn am hunan-samplu HPV.
- Datblygu offeryn cymorth penderfynu gan ddefnyddio canfyddiadau arolwg i greu deunyddiau sy'n cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer hunan-samplu HPV a sgrinio serfigol.
- Dadansoddi cost ac effeithiolrwydd drwy gynnal dadansoddiad cost/budd a thematig i werthuso effaith bosibl hunan-samplu HPV ar raglenni sgrinio serfigol yn y dyfodol.
Y camau nesaf
Gall cyflwyno hunan-samplu HPV yng Nghymru helpu i leihau costau'n sylweddol, gwella profiadau cleifion, a chynyddu mynediad at sgrinio serfigol. Wrth symud ymlaen, dyma’r camau nesaf:
- Cydweithio â Sgrinio Serfigol Cymru i blethu mewnwelediadau arolwg i ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus sydd wrthi’n cael eu cynnal.
- Cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i dreialu hunan-samplu HPV, er mwyn cyrraedd poblogaeth ehangach.
- Ehangu cydweithio ledled y DU, gan gyfrannu at integreiddio hunan-samplu HPV yn genedlaethol mewn rhaglenni sgrinio.
I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Enghreifftiol Bevan, anfonwch e-bost at Arweinydd y ProsiectDebbie.harvey@lshubwales.com, neu gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Sgrinio Serfigol Cymru
Comisiwn Bevan
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Cydweithio rhwng rhanddeiliaid allweddol
Rhoi’r arolwg ar waith
Cafodd dros 4,500 o breswylwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eu holi i gasglu gwybodaeth am eu dealltwriaeth o HPV, o brofion sgrinio serfigol, a dewisiadau ar gyfer hunan-samplu.
Cyfweliadau a dadansoddiadau ansoddol
Cafodd cyfweliadau manwl eu cynnal i ddarparu cyd-destun ychwanegol ar gyfer canfyddiadau’r arolwg.
Datblygu adnoddau
Creodd tîm y prosiect adnodd fideo i fynd i'r afael â rhwystrau a nodwyd, a darparu eglurder ar sgrinio HPV a chanser ceg y groth
Offeryn gwneud penderfyniadau –
Cafodd fersiwn cychwynnol o’r offeryn cymorth penderfynu ei dreialu gydag adborth gan ddefnyddwyr, er mwyn ei fireinio cyn ei gyflwyno’n ehangach.
Gallai cyflwyno system hunan-samplu HPV gynyddu nifer y bobl sy’n cael prawf sgrinio serfigol yn sylweddol, gan ddarparu dewis arall cyfleus i unigolion cymwys. Gyda 64% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg yn dweud eu bod yn ffafrio profion yn y cartref, gallai’r dull hwn drawsnewid ymgysylltiad â gwasanaethau sgrinio, gan gynnig mwy o ddewis a rheolaeth i gleifion dros eu hiechyd.
Gallai’r newid tuag at hunan-samplu arbed tua £650,000 y flwyddyn i GIG Cymru, gan leihau’r angen am brofion mewn clinigau a rhyddhau adnoddau gofal iechyd. Gallai cleifion sy’n dewis hunan-samplu hefyd elwa o amcangyfrif o £2 filiwn mewn arbedion amser cyfunol, gan leihau’r galw am apwyntiadau wyneb yn wyneb a gwella mynediad i’r rhai sydd â’r angen mwyaf am gymorth clinigol.
Drwy fynd i'r afael â diffyg dealltwriaeth o HPV, gall y prosiect feithrin canlyniadau iechyd gwell, gan helpu i atal achosion drwy ganfod achosion yn gynt ac annog sgrinio rhagweithiol.
Cafodd arolwg cynhwysfawr ei gwblhau gan 4,600 a mwy o bobl yn ardal Hywel Dda, sy’n dangos bod rhai yn poeni am hunan-weinyddu’r prawf, er bod llawer o blaid hwylustod hunan-samplu. Amlygodd y canfyddiadau bwysigrwydd mynd i'r afael â'r amheuon hyn drwy adnoddau clir a chefnogol.
Er mwyn cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, datblygodd y prosiect adnoddau fideo a dadansoddiad thematig sy'n egluro gwybodaeth allweddol am HPV, risg canser ceg y groth, ac opsiynau sgrinio. Mae’r canfyddiadau o’r dadansoddiad wedi gosod y sylfaen ar gyfer ymgyrchoedd addysgol i fynd i’r afael â chamsyniadau cyffredin, ac i gefnogi hunan-samplu.
Gan ddefnyddio’r adborth, aeth y tîm ati i fireinio’r offeryn cymorth penderfynu, gan greu adnodd hygyrch sy’n cyd-fynd â nodau iechyd y cyhoedd i wneud sgrinio serfigol yn fwy cyfeillgar a chynhwysol.