Plymiwch i gylchred oes y cais am gyllid, gyda'n dadansoddiad o bob cam o ysgrifennu cais.

Mae deall y broses ymgeisio yn rhan hanfodol o'r broses o gael cyllid, ac mae’n holl bwysig gweithredu mewn ffordd strwythuredig. Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, fe all ein tîm ymroddedig o arbenigwyr cyllid helpu busnesau, prifysgolion a sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i ddelio’n llwyddiannus â phob cam o gylch bywyd ceisiadau.
Gyda chystadleuaeth frwd a nifer o sefydliadau’n aml yn gwneud cais am yr un cyfle, mae cais llwyddiannus yn dibynnu ar broses ysgrifennu glir, bendant. Mae’n hanfodol gosod sylfeini cadarn o’r dechrau er mwyn sefyll allan a chynyddu eich siawns o lwyddo.
Y blog hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o dri. Ar draws y tri blog, byddwn yn manylu ar gamau allweddol y cylch, yn rhannu awgrymiadau gwerthfawr ar sut i ysgrifennu ceisiadau, ac yn egluro sut i wneud y gorau o’ch arian grant ar ôl iddo ddod i law.
I gychwyn y gyfres hon o flogiau byddwn yn edrych ar beth yw cylch bywyd ceisiadau, beth mae ysgrifennu cais yn ei olygu inni a'r camsyniadau cyffredin am hyn.
Fe all dealltwriaeth gadarn o gylch bywyd ceisiadau eich arwain drwy'r gwaith o lunio cynigion a fydd yn llwyddo i gael cyllid. Mae ein tîm yma i’ch helpu bob cam o’r broses ymgeisio. Ewch i’n tudalen cymorth â chyllid i ddechrau arni.
Beth yw cylch bywyd ceisiadau?
Mae cylch bywyd ceisiadau yn cyfeirio at y broses strwythuredig o bennu, creu, a chyflwyno cais mewn ymateb i gyfle i gael cyllid neu grant, yna'r broses o fonitro a rheoli’r arian ar ôl ichi fod yn llwyddiannus. Mae’n cynnwys y siwrnai lawn o’r cysyniad i’r cwblhau, gan sicrhau bod cyrff yn cydymffurfio ac yn cyflawni yn erbyn y canlyniadau y cytunwyd arnynt.
Mae'r cylch bywyd yn cynnwys sawl cam allweddol, ac mae’n hanfodol deall pob un ohonynt er mwyn ysgrifennu cais effeithiol, cystadleuol. Mae cynllunio’n strategol ar draws y camau hyn yn gallu gwella cyfraddau llwyddiant a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gweithgareddau a ariennir.
Yn y sector gwyddorau bywyd, fe all cynigion rychwantu amrywiol fathau o gyllid, gan gynnwys grantiau ymchwil, partneriaethau cydweithredol, contractau sector cyhoeddus, a buddsoddiadau o’r sector preifat.
Mae cylch bywyd cais fel arfer yn cael ei rannu’n ddau gam cyffredinol: cyn dyfarnu ac ar ôl dyfarnu.
Cyn dyfarnu: Mae'r cam hwn yn cynnwys yr holl weithgareddau sy’n digwydd cyn ichi dderbyn unrhyw gyllid. Mae’n dechrau drwy eich bod yn siapio eich syniad cychwynnol, yn dod o hyd i gyfleoedd addas i gael cyllid, paratoi'r cynnig, a chyflwyno'r cais.
Ar ôl dyfarnu: Mae'r cam hwn yn dechrau unwaith y bydd cyllid wedi cael ei ddyfarnu. Mae’n cynnwys trafod contractau, ymgynnull tîm y prosiect, rhoi sylw i’r amcanion a'r cyllidebau, tracio’r cynnydd yn erbyn cerrig milltir, a chyflawni holl rwymedigaethau’r cyllidwr o ran adrodd a chydymffurfio. Mae’r cam hwn yn darfod drwy bod y prosiect yn cael ei ddirwyn i ben yn ffurfiol, gallai hyn gynnwys archwiliadau terfynol, gwneud adroddiadau effaith, a lledaenu gwybodaeth.
Gydol y ddau gam, mae cyfathrebu effeithiol, rheoli risgiau, a chofnodion clir yn allweddol i gynnal hyder cyllidwyr a sicrhau bod y gwaith a ariennir yn cael yr effaith fwyaf bosibl. Mae deall cylch bywyd ceisiadau nid yn unig yn gwella eich gallu i gael cyllid ond mae hefyd yn cryfhau gallu eich sefydliad i gyflawni prosiectau effeithiol o ansawdd uchel.
Meddai ein Harweinydd Cyllid Liz Rees:
“Heb ddealltwriaeth glir o bob cam o’r broses ymgeisio, fe all hyd yn oed y syniadau mwyaf arloesol fethu â sicrhau’r cymorth y maen nhw’n ei haeddu.”
Beth ydy ysgrifennu cais?
Ysgrifennu cais yw'r broses o lunio dogfen glir a pherswadiol mewn ymateb i gyfle i gael cyllid o fewn cylch bywyd cais. Cyfeirir ato fel cais neu gynnig yn aml, ac mae'r ddogfen hon yn amlinellu sut gall eich sefydliad, neu eich datblygiad arloesol, fodloni anghenion a blaenoriaethau’r corff ariannu. P’un a ydych chi’n gwneud cais am grant gan y llywodraeth, gan gronfa elusennol, neu am gyfle i wneud ymchwil, mae'r cais yn gweithredu fel cais ffurfiol am gymorth, ac yn amlinellu eich datganiad gwerth a'r ateb a gynigir. Mae’n bosibl y bydd gan bob ffrwd ariannu ei disgwyliadau, ei hamserlenni a’i rhwymedigaethau adrodd ei hun, felly mae’n bwysig teilwra eich dull o weithredu yn unol â hynny.
Mae creu cais llwyddiannus yn gelfyddyd ac yn wyddor. Mae’n fwy na dim ond ateb cwestiynau’r cais, mae gofyn ichi feddwl yn strategol, ymchwilio’n fanwl, ac adrodd stori afaelgar. Yn holl bwysig, mae’n cyfuno nifer o sgiliau allweddol: y gallu i ddehongli ac ymateb i feini prawf cyllidwyr, dealltwriaeth gadarn o gryfderau a llwyddiant blaenorol eich sefydliad, ynghyd â'r gallu i fynegi syniadau cymhleth yn glir ac yn argyhoeddiadol. Pan gaiff cais ei ysgrifennu’n dda, mae nid yn unig yn cyflwyno syniad cadarn, mae’n dangos eich gallu, eich hygrededd a’ch ymrwymiad i gyflawni canlyniadau ystyrlon.
Fel rhan o’r cais, mae’n bosibl y bydd gofyn i chi egluro’r broblem neu’r angen penodol y mae eich prosiect yn rhoi sylw iddynt, gan gyflwyno tystiolaeth neu ddata i gefnogi ei arwyddocâd. Bydd cyllidwyr yn disgwyl esboniad manwl o’ch dull gweithredu arfaethedig, gan gynnwys y rhesymeg y tu ôl iddo, y canlyniadau disgwyliedig, a’r effaith hirdymor. Maent yn awyddus i ddeall pwy fydd yn elwa o’ch gwaith, sut bydd y prosiect yn cael ei redeg a’i gyflawni, a pha beirianweithiau sydd ar waith i werthuso ei lwyddiant.
Ym mhob cam o'r broses hon, mae ein tîm cyllid yma i'ch helpu. O ddod o hyd i’r cyfleoedd iawn i gael cyllid i adolygu a mireinio eich cyflwyniad terfynol, rydym yn cynnig cyngor arbenigol, adborth a mewnbwn strategol i’ch helpu i lunio cais cystadleuol sy’n sefyll allan.
I wneud pethau’n haws, rydym wedi creu pecyn cymorth defnyddiol sy’n llawn templedi parod i’w defnyddio, o siartiau Gantt i gofrestrau risgiau, fel nad oes rhaid i chi ddechrau o’r dechrau. Bwriedir yr adnoddau hyn i’ch helpu i roi sylw i'r holl hanfodion tra'n cadw eich ffocws ar ddarlun ehangach a nodau hirdymor eich prosiect. Cysylltwch â’n tîm yn fundingsupport@lshubwales.com am ragor o fanylion.
Camsyniadau cyffredin am ysgrifennu cais
Er bod ysgrifennu'r cais yn rhan holl bwysig o gael cyllid, gall godi ofn ar lawer, yn aml oherwydd rhai camsyniadau cyffredin. Gadewch i ni chwalu rhai o’r mythau mwyaf cyffredin a allai fod yn eich dal yn ôl, a sut gallwn ni eich helpu chi gyda’r rhain.
“Mae arnoch angen ysgrifennwr ceisiadau amser llawn i fod yn llwyddiannus”
Er bod pobl broffesiynol sy’n ysgrifennu ceisiadau’n gallu bod yn ddefnyddiol, dydyn nhw ddim yn hanfodol. Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw naratif clir, gafaelgar, sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau’r cyllidwr, a sylw gofalus i fanylion. Gyda’r strwythur a’r gefnogaeth iawn, fe all timau medrus ysgrifennu ceisiadau cadarn, cystadleuol.
Sut rydym ni’n helpu: Rydym yn cynnig arweiniad, adborth a chefnogaeth ymarferol i’ch helpu i fagu eich hyder i ysgrifennu ceisiadau, nid oes arnoch angen ymgynghorwyr allanol na chostau ychwanegol.
“Os na fyddwn ni’n ennill, roedd y cais yn wastraff amser.”
Ddim yn wir. Mae cymryd amser i ysgrifennu eich syniad arloesol yn helpu i egluro eich strategaeth ac uno eich tîm. Mae’n helpu i gael gwared ar unrhyw ansicrwydd, yn cadarnhau pa gam rydych chi arno ar hyn o bryd, lle hoffech chi fynd nesaf, a beth sydd ei angen arnoch i gyrraedd yno. Hefyd, fe allwch wastad ailgylchu cais sydd wedi’i greu’n gelfydd ar gyfer cyfleoedd i gael cyllid i’r dyfodol, ac fe all adborth y cyllidwyr helpu i gryfhau eich cynnig ar gyfer y tro nesaf.
Sut rydym ni’n helpu: Rydym yn eich helpu i gywreinio a myfyrio ar geisiadau aflwyddiannus i roi hwb i’ch siawns o lwyddo y tro nesaf. Gan sicrhau nad oes yr un ymdrech yn cael ei gwastraffu.
“Dim ond prifysgolion neu sefydliadau mawr sy’n cael cyllid”
Er bod gan sefydliadau mwy fwy o brofiad gyda cheisiadau am gyllid, mae llawer o grantiau'n annog ceisiadau gan glinigwyr, proffesiynau gofal iechyd, busnesau newydd, busnesau bach, a chydweithrediadau newydd. Mae cyllidwyr yn rhoi blaenoriaeth i syniadau arloesol a fydd yn cael effaith glir, nid i enwau mawr yn unig.
Sut rydym ni’n helpu: Mae ein tîm wedi cael llawer o lwyddiannau gyda sefydliadau llai, yn ogystal â’r rhai mwy a enwir. Yr hyn sy’n bwysig ydy eich helpu chi i ddod o hyd i'r cydweithrediad cywir a mynegi gwerth eich syniad mewn ffordd afaelgar sy’n gydnaws â'r corff cyllido.
“Cyflwyno’r cais ydy’r darn anoddaf”
Mae cyflwyno eich cynnig yn garreg filltir bwysig, ond mae beth sy’n digwydd wedyn, o dderbyn y cyllid i gyflawni’r prosiect ac adrodd arno, yr un mor bwysig. Os na chaiff y cyllid ei reoli’n dda ar ôl ei ddyfarnu, fe all effeithio ar ba mor lwyddiannus fydd eich ceisiadau presennol, a’ch ceisiadau i’r dyfodol, am gyllid.
Sut rydym ni’n helpu: Er nad ydym yn darparu gwasanaethau ar ôl dyfarnu cyllid, gan y bydd hyn yn benodol i chi a gweinyddwr y cyllid, mae profiad helaeth ein tîm o reoli grantiau yn golygu ein bod yn ystyried cylch bywyd cyfan y prosiect, o gynllunio i wneud adroddiadau, wrth lunio eich cais. Rydym yn creu cynigion cadarn sy’n barod i’w cyflwyno sy’n eich helpu i drosglwyddo’n ddidrafferth i’r broses o roi’r prosiect ar waith.
Yn groes i’r hyn y mae llawer yn gredu, mae’r broses ymgeisio yn aml yn fwy tryloyw nag y mae’n ymddangos. Mae cyrff cyllido wedi ymrwymo i werthuso mewn ffordd deg, wrthrychol sy’n ceisio ariannu cynigion sy’n arloesol ac sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian.
P’un a ydych yn ysgrifennu cais am y tro cyntaf neu’n awyddus i fireinio eich arddull, caiff ein cymorth ei deilwra’n unol â'ch siwrnai unigryw chi. Rydyn ni yma i’ch helpu i ddatgloi cyfleoedd i gael cyllid a dod â’ch syniadau’n fyw. Cysylltwch â’n tîm cyllid i gael rhagor o wybodaeth drwy anfon e-bost at fundingsupport@lshubwales.com.