Ydych chi’n paratoi i ysgrifennu cais am grant ond yn ansicr ble i ddechrau? Rydym wedi llunio ein 10 o awgrymiadau a chyngor gwerthfawr ar feistroli’r broses o ysgrifennu grantiau. I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad, anfonwch e-bost atom yn cymorthcyllido@hwbgbcymru.com
1. Caniatewch ddigon o amser
Gall ceisiadau am gyllid amrywio o ran hyd; mae hi’n bosibl y bydd rhai ceisiadau angen ychydig o dudalennau o wybodaeth tra bod eraill yn gofyn am adolygiad manwl o'ch syniad drwy nifer o gwestiynau cymhleth. Felly, mae hi’n bosibl mai ychydig o wythnosau’n unig y bydd rhai ceisiadau'n eu cymryd, ac eraill yn cymryd misoedd. Beth bynnag fo'r hyd, mae'n arfer da dechrau eich cais cyn gynted â phosibl i sicrhau digon o amser ar gyfer cwblhau a darparu ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl a allai amharu ar eich amser ysgrifennu. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gan eich cais nifer o bartneriaid.
2. Cynlluniwch yn fanwl
Cyn dechrau ysgrifennu, darllenwch holl waith papur y cais a deall beth sydd ei angen. Os caiff eich cais ei gyflwyno drwy borth ar-lein, rydym yn argymell eich bod yn creu templed o'r cwestiynau dan sylw er mwyn i chi ac eraill allu golygu ac adolygu eich gwaith yn hawdd.
Cewch eich cynghori i greu llinell amser fanwl o sut rydych yn bwriadu bwrw ymlaen â'r cais, a gall dirprwyo tasgau i eraill helpu i leihau'r llwyth gwaith.
Cofiwch gadw at y dyddiad cau, a chyflwyno cyn y dyddiad cau yn ddelfrydol er mwyn osgoi unrhyw broblemau ar y diwrnod, fel toriadau pŵer neu broblemau TG.
3. Chwiliwch am gyngor cynnar ac amrywiol
Mae gennym dîm pwrpasol o arbenigwyr ariannu a all helpu i gynghori, adolygu a chychwyn cydweithrediadau ar gyfer eich cais. Byddai’n fuddiol sefydlu eich rhwydwaith yn gynnar, o fewn eich sefydliad a’r tu allan iddo.
Gall ein tîm ariannu gynnig cymorth gyda cheisiadau drwy brawfddarllen, adolygu’r fformat, golygu, adolygu atalnodi a gramadeg, neu helpu i baratoi ar gyfer cyfweliadau, a gall pob un o’r rhain ddylanwadu’n fawr ar sut mae eich gwaith yn cael ei weld. Rydym yn eich cynghori i ymgynghori â ni cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu helpu i gynllunio eich ffordd ymlaen a’ch cefnogi i gyflwyno cais llwyddiannus.
4. Dewiswch dîm deinamig
Mae’n hanfodol bod y tîm a ddewisir gennych yn gallu cyflwyno eich syniadau a bod unigolion yn cynrychioli eich cymuned ymchwil. Byddwch yn glir ynghylch pwy fydd yn arwain y cais a sicrhewch fod ganddynt yr adnoddau i reoli a gyrru’r prosiect yn ei flaen. Os oes angen, amlinellwch yn glir beth yw sgiliau pob person yn y cais, gan esbonio pam eu bod yn hanfodol i lwyddiant eich prosiect. Sicrhewch eich bod yn gwirio cymhwysedd, darllenwch y print mân ar bwy sy’n cael arwain neu gefnogi’r cais, a nodwch unrhyw gyfyngiadau. Cadarnhewch fod pawb yn deall eu rôl yn y cais ac yn barod i helpu.
5. Atebwch y cwestiynau
Cyflwynir cwestiynau mewn amrywiaeth o arddulliau gwahanol, a gallant ofyn am atebion syml a byr, neu esboniadau hir a manwl. Yn syml, cynlluniwch pa gwestiynau fydd yn cymryd y mwyaf o amser neu sydd angen gwaith ategol, neu syniadau gan eich tîm.
Gall rhannu pob cwestiwn yn adrannau llai a hylaw arwain eich ateb, dileu manylion diangen, a chreu strwythur cadarn ar gyfer eich ymateb. Ceisiwch ysgrifennu atebion clir a chryno, gan gofio pwy yw'r gynulleidfa rydych chi’n ysgrifennu ar ei chyfer. Fel hyn, bydd yn haws i’r asesydd ddeall beth rydych chi’n ei gynnig, pam ei fod yn bwysig, a pham y dylai eich ariannu.
Cofiwch fod rhai cwestiynau’n gofyn am atodiadau ychwanegol fel costau, siartiau Gantt neu CVs. Nodwch y rhain yn gynnar a rhowch wybod i bawb perthnasol am eu gofynion.
6. Byddwch yn benodol
Wrth ysgrifennu eich cais, sicrhewch fod gennych nodau, amcanion a damcaniaethau clir a diffiniedig a adlewyrchir ym mhob rhan o’ch cais. Allwch chi roi sylw i beth, pam, pryd a sut eich prosiect? Darparwch resymeg gadarn, dangoswch uchelgais, dangoswch fanylion, ond peidiwch ag ysgrifennu jargon.
Darllenwch ofynion y cais yn drylwyr. A yw eich cais yn cyd-fynd â’r cwmpas a’r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo gan y sefydliad? A oes angen unrhyw eiriau allweddol neu bethau i’w cyflawni? Sicrhewch fod eich cais yn cyd-fynd â chylch gwaith y corff cyllido a pheidiwch ag addasu eich syniad i gyd-fynd â’u meini prawf. Mae’n bwysig osgoi gwastraffu amser yn gwneud cais am unrhyw gynlluniau amhriodol.
7. Adroddwch stori ddiddorol
Nodwch broblem a darparu ateb. Dyma’r prif bethau sy’n sbarduno’r prosiect rydych chi’n ei gynnig, ac yn aml dyma fydd y cwestiynau blaenoriaeth yn eich cais.
Mae cyllidwyr eisiau deall ffocws eich syniad, felly byddwch yn ddifyr a mynnwch sylw eich darllenydd. Lluniwch naratif diddorol, tynnwch sylw at bwyntiau a chanlyniadau allweddol, a gwerthu eich syniad yn effeithiol.
Rhowch dystiolaeth i gefnogi pam eich bod yn seilio eich ymchwil ar y syniad hwn. Gallai’r dystiolaeth hon fod yn ddata sylfaenol rydych chi eisoes wedi’i gasglu, neu’n ddata eilaidd o adroddiadau ac astudiaethau. Beth bynnag yw’r dystiolaeth, mae angen i chi berswadio’r cyllidwyr y bydd eu harian yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon.
8. Byddwch yn ymwybodol o'r hyn sydd o’ch cwmpas
Mae angen i chi allu dangos eich bod yn deall eich pwnc yn llawn. Ymgyfarwyddwch â pha syniadau eraill sydd eisoes ar y farchnad neu mewn treialon clinigol, er mwyn i chi allu egluro sut a pham mae eich syniadau chi’n well neu’n ategol.
Ystyriwch effaith a chynaliadwyedd eich prosiect. Sut bydd yn effeithio ar y buddiolwyr a’r gymuned ehangach? Meddyliwch a fydd eich prosiect yn mynd rhagddo ar ôl i’r cyllid ddod i ben, a sut bydd hynny’n digwydd. Beth yw’r effeithiau tymor hir? A yw’r prosiect yn gallu cynnal ei hun?
Wrth egluro’r bwlch gwybodaeth, y dylanwad y bydd yn ei gael a pha mor unigryw yw eich dull gweithredu, mae hefyd yn fuddiol cydnabod gwendidau eich cynnig. Beth allai fynd o’i le, a sut byddwch chi’n nodi ac yn lleihau risgiau? Mae tryloywder yn dangos i adolygwyr eich bod yn deall cyfyngiadau eich gwaith, eich bod wedi ystyried sut i fynd i'r afael â nhw, a'ch bod yn ymarferol ynghylch yr hyn y gall y cyllid ei gyflawni, hyd yn oed wrth fod yn uchelgeisiol.
Fel rhan o’r pecyn Gwybodaeth am y Sector yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gallwn ddarparu adroddiadau dadansoddi’r farchnad i helpu i nodi lle mae eich syniad yn rhan o’r dirwedd bresennol, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr ar gyfer cwestiynau eich cais. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
9. Sicrhewch fod eich cyllideb yn gywir
A yw eich cyllideb yn glir ac oes modd ei chyfiawnhau? Dadansoddwch yr holl gostau er mwyn i gyllidwyr allu deall sut rydych chi’n dilysu eich cyllideb. Chwiliwch am ddyfynbrisiau ac amcangyfrifon dilys fel tystiolaeth uniongyrchol yn hytrach na dyfalu cost elfennau.
Peidiwch ag anghofio niferoedd eraill drwy gydol eich cais; gallai’r rhain gynnwys ymchwilio i feintiau sampl, cyfrifiadau ac ystadegau. Sicrhewch fod eich dulliau yn gredadwy, yn ymarferol, ac yn cyfrannu at y brif her. Mae’n ddefnyddiol cael rhywun i ddarllen y rhain yn drylwyr er mwyn sicrhau bod popeth yn cyd-fynd yn gywir.
Wrth gyfrifo gorbenion, cofiwch sicrhau eu bod yn berthnasol i’r prosiect a bod ganddynt y dogfennau cywir ar gyfer archwilio. Sylwch fod rhai cyllidwyr yn derbyn canran sefydlog ar gyfer costau gorbenion, ond mae hi’n bosibl na fydd eraill yn caniatáu’r rhain o gwbl.
10. Peidiwch â bod ofn ymgysylltu
Ymgysylltwch â chyllidwyr. Cofrestrwch i gael cylchlythyrau rheolaidd neu cysylltwch â nhw’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol; mae llawer o gyllidwyr yn croesawu cyswllt ac yn darparu manylion cyswllt penodol drwy eu tudalennau gwe cyllid. Fodd bynnag, mae rhai cyllidwyr yn disgwyl cyswllt cyn cyflwyno. Darllenwch unrhyw ganllawiau a meini prawf cymhwysedd yn ofalus cyn cysylltu â nhw.
Mae gan ein tîm cyllido lyfrgell sefydledig o gysylltiadau ar draws nifer o sefydliadau ac maent yn hapus i gysylltu ag unrhyw un angenrheidiol i ateb eich cwestiynau. Fodd bynnag, mae hi’n bosibl fod gan ein tîm gwybodus yr atebion a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch yn barod. Cysylltwch â ni heddiw i gael arweiniad arbenigol ac i gael cymorth cymorthcyllido@hwbgbcymru.com