Byddwn hefyd yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, fel y nodir yn ein hysbysiad cydymffurfio, a sefydlodd fframwaith cyfreithiol i osod dyletswyddau ar sefydliadau cyhoeddus i gydymffurfio ag un neu ragor o safonau ymddygiad o ran y Gymraeg.

Mae Polisi Iaith Gymraeg Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn disgrifio sut y byddwn yn:

  • Dathlu natur ddwyieithog Cymru
  • Bodloni gofynion Safonau’r Gymraeg ac yn sicrhau bod Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cydymffurfio â’r gofynion a’r nodau hyn ar gyfer arferion gorau
  • Hwyluso a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru
  • Darparu’r egwyddorion rydym yn gweithredu yn unol â nhw i sicrhau bod Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnig gwasanaeth o safon yn y Gymraeg
  • Codi ein proffil a’n henw da corfforaethol a chael ein cydnabod gan siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd (gan gynnwys yn rhyngwladol) fel enghraifft dda o sefydliad cyhoeddus yng Nghymru
  • Sicrhau hygyrchedd a mynediad ehangach a chryfhau ein hapêl yng Nghymru a thu hwnt
  • Cryfhau ein gallu i fodloni gofynion ein partneriaid a gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg.

Gwelwn y polisi hwn fel rhan o ymrwymiad blaengar ac arloesol yn y gymuned Gwyddorau Bywyd i hwyluso a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn Cymru ddwyieithog. Mae gennym grŵp Iaith Gymraeg sy’n ceisio datblygu a gwella hyn yn barhaus.

Cwynion am y Gymraeg

Bydd unrhyw gwynion sy’n ymwneud â chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg neu fethiant ein sefydliad i ddarparu gwasanaeth Cymraeg yn dilyn ein Polisi Cwynion Iaith Gymraeg

Gellir cyfeirio unrhyw gŵyn yn ymwneud â’r Gymraeg at Gomisiynydd y Gymraeg.