O dan Adran 19(1) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n ofynnol i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyfyngedig (LSHW), fel Corff Hyd Braich Llywodraeth Cymru, fabwysiadu a chynnal cynllun cyhoeddi sy’n nodi’r dosbarthiadau gwybodaeth sydd gennym, y fformat y bwriadwn gyhoeddi’r wybodaeth ynddo a p’un ai a godir tâl am yr wybodaeth ai peidio.

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyfyngedig wedi mabwysiadu Cynllun Cyhoeddiadau Enghreifftiol Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ffurfiol, sy’n nodi’r saith dosbarth o wybodaeth y dylai cyrff cyhoeddus eu cyhoeddi.

Mae’r tablau isod yn nodi’r saith dosbarth o wybodaeth a’r wybodaeth sydd ar gael y mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn ei chyhoeddi ym mhob dosbarth, ble i ddod o hyd i’r wybodaeth a sut i gael gafael arni.

Ni chodir tâl am yr wybodaeth a gyhoeddir ar ein gwefan. Os oes angen copïau papur o’r wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni.

Bydd y cynllun cyhoeddi yn cael ei gynnal a’i ddiweddaru’n rheolaidd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyfyngedig.

Os ydych chi’n dymuno gwneud cais am wybodaeth nad yw ar gael drwy ein cynllun cyhoeddi, gallwch gyflwyno cais rhyddid gwybodaeth drwy ysgrifennu i’r cyfeiriad isod. Sylwch efallai na fyddwn yn gallu darparu rhywfaint o wybodaeth os yw’n cael ei gwarchod gan Ddeddf Diogelu Data 2018 neu eithriad o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu fel eithriad o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, a gellir golygu dogfennau’n unol â hynny.

Y Swyddog Diogelu Data, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyfyngedig, 3 Sgwâr y Cynulliad, Bae Caerdydd, Caerdydd CF10 4PL.

helo@hwbgbcymru.com