Mae ein Bwrdd Cyfarwyddwyr yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad ynghyd. Daw ei aelodau o’r byd academaidd, y byd busnes a'r byd gofal iechyd ac maen nhw'n cynrychioli sbectrwm eang o ddisgyblaethau gwyddorau bywyd.
Caiff ein Bwrdd ei benodi gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ysgwyddo’r cyfrifoldebau sydd wedi’u pennu yn y Cytundeb Rheoli rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Llywodraeth Cymru.