Yr Athro Hamish Laing

Cyfarwyddwr Anweithredol
Hamish Laing

Ar ôl gyrfa fel Llawfeddyg Plastig adluniol ac arbenigwr Sarcoma a dal llawer o swyddi arwain yn y GIG, roedd Hamish yn Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol ac yn Brif Swyddog Gwybodaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Yno, fe wnaeth arwain adolygiad traws-sector o strategaethau clinigol a digidol, cyd-awduro ei strategaeth ansawdd, a sefydlu rhaglen ar gyfer trawsnewid digidol. Fe wnaeth ddechrau rhaglen Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth ac arwain ar ofal iechyd ac arloesi ym Margen Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.

Cafodd Hamish ei benodi’n Gadeirydd Athrawol yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn 2018, ac mae’n Gyfarwyddwr yr Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth enwog lle mae’n addysgu, yn ymchwilio ac yn darparu gwasanaethau ymgynghori, gan weithio gydag iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, polisi iechyd a’r diwydiannau gwyddorau bywyd. Mae’r academi’n cynghori nifer o systemau iechyd a Llywodraethau rhyngwladol, ac mae Hamish yn aelod o Felin Drafod Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth Ffederasiwn Diwydiannau a Chymdeithasau Fferyllol Ewrop a Chynghrair yr UE ar gyfer Gwerth mewn Iechyd. Mae hefyd yn aelod o bwyllgor Cymuned Ymarfer Caffael sy’n Seiliedig ar Werth yr UE sy’n cael ei gynnal gan MedTech Europe. 

Dyfarnwyd Uwch Gymrodoriaeth Sefydlu i Hamish gan Gyfadran Arweinyddiaeth a Rheolaeth Feddygol y DU yn 2018 am ei gyfraniad at arweinyddiaeth feddygol yn y DU, mae’n Gymrawd Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain ac yn Addysgwr Rheolaeth a Busnes Ardystiedig. Mae’n gynghorydd gofal iechyd i CGI, y partner cyflenwi digidol byd-eang ac i Convatec UK & I.