Peter Max

Cyfarwyddwr Anweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Peter Max

Cyfrifydd siartredig oedd Peter yn wreiddiol yn canolbwyntio ar wasanaethau cyhoeddus ac elusennau, cyn treulio pedair blynedd mewn cyllid corfforaethol a rolau ecwiti preifat. Wedi hynny fel Rheolwr Gyfarwyddwr, cyd-sefydlodd gynllun gofal cymdeithasol newydd yng Nghymru gan roi cymorth i unigolion sydd â diagnosis iechyd meddwl ac mae'n parhau i fod yn Unigolyn Cyfrifol.   

Fel Cyfarwyddwr Anweithredol, mae Peter yn gwasanaethu ar Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru ac mae'n gadeirydd eu Pwyllgor Gwella ac yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio a Risg. 

Cyn hynny treuliodd Peter 7 mlynedd fel Aelod Annibynnol ar Grŵp Cyflawni Cenedlaethol GIG Cymru o fewn Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.